UNSW Sydney

Ydych chi eisiau creu? Arloesi? Perfformio? Dadansoddi? Bydd y cwrs hwn yn rhoi sail gadarn i chi fedru perfformio mewn sawl cyfrwng, yn ogystal â’r gallu deallusol y medrwch addasu i sawl swydd wahanol. Mae cynnwys y cwrs yn gyfredol, yn addasu’n gyson i adlewyrchu theatr yng Nghymru a thu hwnt. Dyma’r unig gwrs o’i fath sy’n bodoli yng Nghaerdydd. Mae natur hyblyg y cwrs rhoi cyfle i fyfyrwyr ganolbwyntio ar eu diddordebau personol a’u hamcanion gyrfa. Cewch ystod o fodiwlau i’w dewis o’u plith nhw sy’n cynnwys; perfformio, actio, cyfarwyddo, theatr corfforol, theatr cerddorol a phoblogaidd, dyfeisio, sgriptio a thechnoleg theatr. Mae astudio yng Nghaerdydd yn cynnig cyfleoedd di-ri i chi fanteisio ar ddiwydiant celfyddydau sy’n ffynnu, o gynhyrchu teledu i leoliadau celfyddydau annibynnol, bydd hen ddigon ar gael i chi yn ystod eich astudiaethau ac ar ôl i chi raddio.