United Kingdom

Cardiff University

151–175 th
Arts & humanities Rankings 2018
=162 nd
World University Rankings 2018
Park Place, Cardiff, CF10 3AT, United Kingdom

Cardiff University

Philosophy/Welsh

Drwy gyfuno’r Gymraeg ac Athroniaeth, byddwch yn ennill cyfoeth o wybodaeth a sgiliau trosglwyddadwy, gan agor drysau i amrywiaeth o lwybrau gyrfa. Mae’r radd gydanrhydedd yn rhoi'r cyfle i chi arbenigo mewn dau bwnc ac fe welwch eu bod yn aml yn rhannu materion a safbwyntiau. Mae cwrs y Gymraeg yn berthnasol i’r Gymru gyfoes ac yn cael ei ddysgu gan Ysgol sydd wedi’i chydnabod am ansawdd ac effaith ei hymchwil. Nod y cwrs yw cynhyrchu graddedigion sydd â dealltwriaeth drwyadl (yn academaidd ac yn ymarferol) o’r iaith Gymraeg, ei llenyddiaeth a’i diwylliant, lefel uchel o sgiliau ieithyddol ar lafar ac yn ysgrifenedig, a sgiliau cyflogadwyedd a chreadigol datblygedig sy’n berthnasol i’r Gymru fodern. Mae dwy agwedd gysylltiedig ar y cwrs athroniaeth yng Nghaerdydd sy'n ei wneud yn nodedig ymysg prifysgolion Grŵp Russell. Un yw bod yna bwyslais cryf ar foeseg, gwleidyddiaeth ac estheteg ymhlith y modiwlau a gynigir. Y llall yw bod ein gwaith ymchwil ac addysgu yn cael ei ledaenu’n gyfartal ar draws arddulliau ‘dadansoddol’ a ‘Chyfandirol’ Athroniaeth Orllewinol. Fel myfyriwr cydanrhydedd, fe welwch fod meysydd a safbwyntiau yn aml sy'n cysylltu pynciau, boed yn ddadansoddiad beirniadol, yn gyd-destunau hanesyddol neu'n ymchwil diweddar. NODYN: Fel arfer, mae'r radd gydanrhydedd hon yn agored dim ond i ddarpar fyfyrwyr sydd wedi astudio’r Gymraeg fel iaith gyntaf ar gyfer Safon Uwch. Os nad ydych wedi gwneud hynny ond eich bod yn teimlo bod eich Cymraeg o safon cyfatebol, anfonwch e-bost at cymraeg@caerdydd.ac.uk. Nodweddion nodedig Mae nodweddion nodedig y cwrs yn cynnwys: •y cyfle i ddilyn cwrs gradd sy’n datblygu sgiliau sy’n berthnasol i’r byd academaidd ac i’r gweithle •modiwl craidd sy’n canolbwyntio ar sgiliau cyflogadwyedd, ac sy’n cynnig cyfnod o brofiad gwaith •ystod o fodiwlau craidd a dewisol sy’n astudio’r iaith, ei llenyddiaeth a’i diwylliant, yn ogystal â chyfle i arbenigo mewn meysydd sydd o ddiddordeb personol neu o ran eich gyrfa •y pwyslais ar sgiliau ymchwil ymarferol, a fydd o fudd ichi drwy gydol eich gyrfa •y pwyslais ar ddysgu annibynnol mewn awyrgylch cefnogol •y profiad o gael eich addysgu gan ddarlithwyr sy’n weithredol ym myd ymchwil, ac sy’n seilio eu haddysgu ar ymchwil •y profiad o gael eich addysgu gan staff a fydd yn eich adnabod fel unigolyn

  • Qualification
    Bachelor of Arts (with Honours) - BA (Hons)
  • Study mode
    Full-time
  • Duration
    3 years
  • Start date
    2018-09-01
  • Location
    Main Site - Cardiff,Cardiff
  • Fees & Finances
  • EU Year 1 £9,000
  • England Year 1 £9,000
  • Northern Ireland Year 1 £9,000
  • Scotland Year 1 £9,000
  • Wales Year 1 £9,000
  • International Year 1 £15,080