Cardiff University

151–175 th
Arts & humanities Rankings 2018
=162 nd
World University Rankings 2018
Park Place, Cardiff, CF10 3AT, United Kingdom

French/Welsh (4 years)

Trwy gyfuno Cymraeg a Ffrangeg, byddwch yn dysgu cyfoeth o sgiliau a gwybodaeth y gellir eu defnyddio mewn sawl maes. Bydd y rhain hefyd o les yn y byd gwaith byd-eang ac yn helpu agor y drysau i amrywiaeth o yrfaoedd posibl. Mae cwrs y Gymraeg yn berthnasol i’r Gymru gyfoes ac yn cael ei ddysgu gan Ysgol sydd wedi’i chydnabod am ansawdd ac effaith ei hymchwil. Nod y cwrs yw cynhyrchu graddedigion sydd â dealltwriaeth drwyadl (yn academaidd ac yn ymarferol) o’r iaith Gymraeg, ei llenyddiaeth a’i diwylliant, lefel uchel o sgiliau ieithyddol ar lafar ac yn ysgrifenedig, a sgiliau cyflogadwyedd a chreadigol datblygedig sy’n berthnasol i’r Gymru fodern. Mae’n cynnig modiwlau craidd a dewisol i roi sylfaen ichi o ran iaith a llenyddiaeth, yn ogystal â chyfle i arbenigo mewn meysydd sydd o ddiddordeb personol neu o ran eich gyrfa. Mae Ffrainc yn ffigwr pwysig ar lwyfan Ewrop a’r byd, ac yn enwog am ddiwylliant cyfoethog a soffistigedig. Mae Ffrangeg yn un o ieithoedd gwaith swyddogol y gymuned Ewropeaidd, ac mae hi’n iaith diwylliant a diplomyddiaeth ar lefel fyd-eang. Rydym ni’n cynnig Ffrangeg i fyfyrwyr lefel uwch a dechreuwyr. O ran caffael iaith, bydd y cwrs hwn yn eich galluogi chi i ddatblygu eich sgiliau ysgrifennu, llafar a gwrando drwy amrywiaeth o weithgareddau dysgu, a chan ddefnyddio amrywiaeth o ddeunyddiau clyweledol. Yn eich blwyddyn gyntaf, yn ogystal â'ch gwersi iaith, bydd cyflwyniad i hanes a diwylliant yn ceisio darparu sylfaen gadarn ar gyfer astudiaethau mwy arbenigol wrth i chi ddilyn eich cwrs. Bydd eich dealltwriaeth o’r Ffrangeg yn cael ei datblygu a’i mireinio ymhellach yn ystod eich blwyddyn dramor, pan fyddwch yn cael profiad uniongyrchol o fywyd mewn gwlad Ffrangeg ei hiaith. Mae'n bwysig cofio nad yw astudio ieithoedd yn golygu astudio’r iaith a dim arall. Mae'n golygu ymchwilio i sawl agwedd ar wlad. Yng Nghaerdydd, rydym ni’n anelu at gynnig cwrs gwirioneddol eang gan gynnwys modiwlau dewisol mewn ffilm, llenyddiaeth, hanes celf, gwleidyddiaeth a hanes. Fel myfyriwr cydanrhydedd, fe welwch fod meysydd a safbwyntiau yn aml sy'n cysylltu pynciau, boed yn ddadansoddiad beirniadol, yn gyd-destunau hanesyddol neu'n ymchwil diweddar. Mae pob ysgol sy’n gysylltiedig â chyflwyno’r radd yn cynnig cwrs heriol o fodiwlau, sydd wedi’i gefnogi gan awyrgylch cyfeillgar a chysylltiadau rhagorol rhwng y staff a’r myfyrwyr. Ar ôl cwblhau’r rhaglen bedair blynedd hon, bydd gennych hyfedredd iaith lefel uchel yn ogystal â dealltwriaeth feirniadol o agweddau allweddol o lenyddiaeth, diwylliant, gwleidyddiaeth a chymdeithas gyfoes Cymreig a Ffrengig. Nodweddion nodedig Cymraeg • y cyfle i ddilyn cwrs gradd sy’n datblygu sgiliau sy’n berthnasol i’r byd academaidd ac i’r gweithle • modiwl craidd sy’n canolbwyntio ar sgiliau cyflogadwyedd, ac sy’n cynnig cyfnod o brofiad gwaith • ystod o fodiwlau craidd a dewisol sy’n astudio’r iaith, ei llenyddiaeth a’i diwylliant, yn ogystal â chyfle i arbenigo mewn meysydd sydd o ddiddordeb personol neu o ran eich gyrfa • y pwyslais ar sgiliau ymchwil ymarferol, a fydd o fudd ichi drwy gydol eich gyrfa • y pwyslais ar ddysgu annibynnol mewn awyrgylch cefnogol • y profiad o gael eich addysgu gan ddarlithwyr sy’n weithredol ym myd ymchwil, ac sy’n seilio eu haddysgu ar ymchwil • y profiad o gael eich addysgu gan staff a fydd yn eich adnabod fel unigolyn FFRANGEG • modiwlau craidd sy’n gwarantu sylfaen gadarn i bawb, ond wedyn yn caniatáu, gyda chyngor gan eich tiwtor personol, ichi fireinio rhaglen a fydd fwyaf addas ar gyfer eich diddordebau a’ch dyheadau gyrfaol • addysgu dan arweiniad ymchwil sy’n eich galluogi i ymgysylltu â syniadau newydd sy’n helpu i lunio dyfodol astudiaethau Ffrangeg • llwybr at y radd hon i ddechreuwyr nad oes ganddyn Ffrangeg Safon Uwch • y cyfle i dreulio blwyddyn yn astudio neu’n gweithio mewn gwlad Ffrangeg ei hiaith • gall myfyrwyr Ffrangeg Busnes sefyll yr arholiad Siambr Fasnach Paris a gydnabyddir yn rhyngwladol

  • Qualification
    Bachelor of Arts (with Honours) - BA (Hons)
  • Study mode
    Full-time
  • Duration
    4 years
  • Start date
    2018-09-01
  • Location
    Main Site - Cardiff,Cardiff
  • Fees & Finances
  • EU Year 1 £9,000
  • England Year 1 £9,000
  • Northern Ireland Year 1 £9,000
  • Scotland Year 1 £9,000
  • Wales Year 1 £9,000
  • International Year 1 £15,080