United Kingdom

Cardiff University

151–175 th
Arts & humanities Rankings 2018
=162 nd
World University Rankings 2018
Park Place, Cardiff, CF10 3AT, United Kingdom

Cardiff University

English Literature/Welsh

Drwy gyfuno’r Gymraeg a Llenyddiaeth Saesneg, byddwch yn ennill cyfoeth o wybodaeth a sgiliau trosglwyddadwy, gan agor drysau i amrywiaeth o lwybrau gyrfa. Mae’r radd gydanrhydedd yn cynnig y cyfle i ddilyn cwrs astudio ar lefel uwch, gan rannu eich modiwlau rhwng y Gymraeg a Llenyddiaeth Saesneg. Mae cwrs y Gymraeg yn berthnasol i’r Gymru gyfoes ac yn cael ei ddysgu gan Ysgol sydd wedi’i chydnabod am ansawdd ac effaith ei hymchwil. Nod y cwrs yw cynhyrchu graddedigion sydd â dealltwriaeth drwyadl (yn academaidd ac yn ymarferol) o’r iaith Gymraeg, ei llenyddiaeth a’i diwylliant, lefel uchel o sgiliau ieithyddol ar lafar ac yn ysgrifenedig, a sgiliau cyflogadwyedd a chreadigol datblygedig sy’n berthnasol i’r Gymru fodern. Mae’r cwricwlwm Llenyddiaeth Saesneg yn cynnig mynediad at holl rychwant llenyddiaeth Saesneg, o gyfnod yr Eingl-Sacsoniaid hyd at yr unfed ganrif ar hugain. Ond ni chyfyngir y cwricwlwm i’r gair printiedig - gan fod y cysylltiadau rhwng llenyddiaeth a ffilm, celfyddyd, cerddoriaeth, hanes, iaith a diwylliant poblogaidd yn cyffroi’n chwilfrydedd, ac mae’n haddysgu ni’n adlewyrchu’r diddordebau hynny. Er nad yw’r cwrs Llenyddiaeth Saesneg yn cynnwys unrhyw fodiwlau gorfodol, byddwch yn ennill profiad o ystod eang o destunau llenyddol, cyfnodau, mudiadau a genres. Fel myfyriwr cydanrhydedd, fe welwch fod meysydd a safbwyntiau yn aml sy'n cysylltu pynciau, boed yn ddadansoddiad beirniadol, yn gyd-destunau hanesyddol neu'n ddulliau academaidd. Nodweddion nodedig Mae nodweddion nodedig y cwrs yn cynnwys: •y cyfle i ddilyn cwrs gradd sy’n datblygu sgiliau sy’n berthnasol i’r byd academaidd ac i’r gweithle •modiwl craidd sy’n canolbwyntio ar sgiliau cyflogadwyedd, ac sy’n cynnig cyfnod o brofiad gwaith •ystod o fodiwlau craidd a dewisol mewn Llenyddiaeth Saesneg ac sy’n astudio’r iaith Gymraeg, ei llenyddiaeth a’i diwylliant, yn ogystal â chyfle i arbenigo mewn meysydd sydd o ddiddordeb personol neu o ran eich gyrfa •y pwyslais ar sgiliau ymchwil ymarferol, a fydd o fudd ichi drwy gydol eich gyrfa •y pwyslais ar ddysgu annibynnol mewn awyrgylch cefnogol •y profiad o gael eich addysgu gan ddarlithwyr sy’n weithredol ym myd ymchwil, ac sy’n seilio eu haddysgu ar ymchwil •y profiad o gael eich addysgu gan staff a fydd yn eich adnabod fel unigolyn •cwrs sy’n cynnig traddodiad cryf ym maes ysgrifennu creadigol ac fe addysgir y maes gan awduron sy’n gwneud eu marc ar ddiwylliant cyfoes. •cwrs a gydnabyddir am ddarllen yng ngoleuni damcaniaethau a sicrhau bod deialog rhwng testunau o bob cyfnod a materion cyfoes o ran rhywedd, hunaniaeth, rhywioldeb, cenedligrwydd, hil, y corff, yr amgylchedd a thechnoleg ddigidol.

  • Qualification
    Bachelor of Arts (with Honours) - BA (Hons)
  • Study mode
    Full-time
  • Duration
    3 years
  • Start date
    2018-09-01
  • Location
    Main Site - Cardiff,Cardiff
  • Fees & Finances
  • EU Year 1 £9,000
  • England Year 1 £9,000
  • Northern Ireland Year 1 £9,000
  • Scotland Year 1 £9,000
  • Wales Year 1 £9,000
  • International Year 1 £15,080