Cardiff University

=187 th
World University Rankings 2019
32 nd
European Teaching Rankings 2018
Park Place, Cardiff, CF10 3AT, United Kingdom

Cymraeg a Newyddiaduraeth

Drwy gyfuno’r Gymraeg a Newyddiaduraeth, byddwch yn ennill cyfoeth o wybodaeth a sgiliau trosglwyddadwy, gan agor drysau i amrywiaeth o lwybrau gyrfa. Gall astudio gradd gydanrhydedd eich symbylu a rhoi boddhad, wrth ichi sylwi ar nodweddion tebyg a gwahaniaethau rhwng y ddau bwnc. Mae cwrs y Gymraeg yn berthnasol i’r Gymru gyfoes ac yn cael ei ddysgu gan Ysgol sydd wedi’i chydnabod am ansawdd ac effaith ei hymchwil. Nod y cwrs yw cynhyrchu graddedigion sydd â dealltwriaeth drwyadl (yn academaidd ac yn ymarferol) o’r iaith Gymraeg, ei llenyddiaeth a’i diwylliant, lefel uchel o sgiliau ieithyddol ar lafar ac yn ysgrifenedig, a sgiliau cyflogadwyedd a chreadigol datblygedig sy’n berthnasol i’r Gymru fodern. Mae’n cynnig modiwlau craidd a dewisol i roi sylfaen i chi o ran iaith a llenyddiaeth, yn ogystal â chyfle i arbenigo mewn meysydd sydd o ddiddordeb personol neu o ran eich gyrfa. Nod cyffredinol Newyddiaduraeth yw arfogi myfyrwyr i ddod yn ddinasyddion gwybodus mewn cymdeithas sy’n orlawn o gyfryngau. Mae’n dechrau gyda'r rhagdybiaeth fod angen i ni ddeall y rôl ganolog a chwaraeir gan y cyfryngau a’r diwydiannau diwylliannol er mwyn deall cymdeithas fodern. Byddwch yn gallu cymryd rhai modiwlau ymarferol, ond mae pwyslais y radd yn academaidd a dadansoddol. SYLWER: Nid yw’r cwrs hwn ar gael i fyfyrwyr Cymraeg ail iaith. Bydd ymgeiswyr i'r radd hon fel arfer wedi astudio rhai cymwysterau ôl-16 drwy gyfrwng y Gymraeg. Os nad ydych wedi gwneud hynny ond eich bod yn teimlo bod eich Cymraeg o safon cyfatebol, anfonwch e-bost at cymraeg@caerdydd.ac.uk. Nodweddion nodedig Mae nodweddion nodedig y cwrs yn cynnwys: •y cyfle i ddilyn cwrs gradd sy’n datblygu sgiliau sy’n berthnasol i’r byd academaidd ac i’r gweithle •modiwl craidd sy’n canolbwyntio ar sgiliau cyflogadwyedd, ac sy’n cynnig cyfnod o brofiad gwaith •ystod o fodiwlau craidd a dewisol sy’n astudio’r iaith, ei llenyddiaeth a’i diwylliant, yn ogystal â chyfle i arbenigo mewn meysydd sydd o ddiddordeb personol neu o ran eich gyrfa •modiwlau cyfryngau mor amrywiol â Rheoli Cyfryngau Cyfathrebu, Gwleidyddiaeth Rhyfel a Phropaganda ac Achosion Cyfathrebu •y pwyslais ar sgiliau ymchwil ymarferol, a fydd o fudd ichi drwy gydol eich gyrfa •y pwyslais ar ddysgu annibynnol mewn awyrgylch cefnogol •y profiad o gael eich addysgu gan ddarlithwyr sy’n weithredol ym myd ymchwil, ac sy’n seilio eu haddysgu ar ymchwil •y profiad o gael eich addysgu gan staff a fydd yn eich adnabod fel unigolyn •mynediad at gynlluniau Erasmus ac Astudio Dramor •wythnosau gyrfaoedd a gweithdai wedi eu trefnu’n rheolaidd i sicrhau eich bod chi’n barod ar gyfer 'byd gwaith'

  • Qualification
    Bachelor of Arts (Hons)/BA (Hons)
  • Study mode
    Full-time
  • Duration
    3 years
  • Start date
    2018-09-24
  • Location
    Main Site - Cardiff,Cardiff
  • Fees & Finances
  • Channel Islands Year 1 £9,000
  • EU Year 1 £9,000
  • England Year 1 £9,000
  • Northern Ireland Year 1 £9,000
  • Scotland Year 1 £9,000
  • Wales Year 1 £9,000
  • International Year 1 £15,950
  • Qualification
    Bachelor of Arts (Hons)/BA (Hons)
  • Study mode
    Full-time
  • Duration
    3 years
  • Start date
    2019-09-23
  • Location
    Main Site - Cardiff,Cardiff
  • Fees & Finances
  • Channel Islands Year 1 £9,000
  • EU Year 1 £9,000
  • England Year 1 £9,000
  • Northern Ireland Year 1 £9,000
  • Scotland Year 1 £9,000
  • Wales Year 1 £9,000
  • International Year 1 £15,950