Cardiff University

=162 nd
World University Rankings 2018
32 nd
European Teaching Rankings 2018
Park Place, Cardiff, CF10 3AT, United Kingdom

Cymraeg a Hanes

Drwy gyfuno’r Gymraeg a Hanes, byddwch yn ennill cyfoeth o wybodaeth a sgiliau trosglwyddadwy, gan agor drysau i amrywiaeth o lwybrau gyrfa. Byddwch yn rhannu eich amser rhwng y naill bwnc a’r llall, gan eich galluogi i astudio'r Gymraeg, ei llenyddiaeth a'i diwylliant, yn ogystal ag archwilio a deall adegau allweddol mewn hanes. Mae cwrs y Gymraeg yn berthnasol i’r Gymru gyfoes ac yn cael ei ddysgu gan Ysgol sydd wedi’i chydnabod am ansawdd ac effaith ei hymchwil. Nod y cwrs yw cynhyrchu graddedigion sydd â dealltwriaeth drwyadl (yn academaidd ac yn ymarferol) o’r iaith Gymraeg, ei llenyddiaeth a’i diwylliant, lefel uchel o sgiliau ieithyddol ar lafar ac yn ysgrifenedig, a sgiliau cyflogadwyedd a chreadigol datblygedig sy’n berthnasol i’r Gymru fodern. Mae’r cwrs Hanes yn cwmpasu’r cyfnod o gwymp yr Ymerodraeth Rufeinig hyd at heddiw. Mae cydbwysedd rhwng modiwlau sy’n cwmpasu cyfnodau hanesyddol penodol a modiwlau thematig sy’n archwilio pynciau cymdeithasol a diwylliannol eang, fel rhyfela, rhywedd, crefydd, celf, meddygaeth a gwyddoniaeth. Byddwch yn dysgu meddwl yn annibynnol, asesu cryfderau a gwendidau corff o dystiolaeth hanesyddol trosoch eich hun, ac yn cyflwyno eich canfyddiadau yn glir. Nodweddion nodedig Mae nodweddion nodedig y cwrs yn cynnwys: •y cyfle i ddilyn cwrs gradd sy’n datblygu sgiliau sy’n berthnasol i’r byd academaidd ac i’r gweithle •modiwl craidd sy’n canolbwyntio ar sgiliau cyflogadwyedd, ac sy’n cynnig cyfnod o brofiad gwaith •ystod o fodiwlau craidd a dewisol sy’n astudio’r iaith, ei llenyddiaeth a’i diwylliant, yn ogystal â chyfle i arbenigo mewn meysydd sydd o ddiddordeb personol neu o ran eich gyrfa •y pwyslais ar sgiliau ymchwil ymarferol, a fydd o fudd ichi drwy gydol eich gyrfa •y pwyslais ar ddysgu annibynnol mewn awyrgylch cefnogol •y profiad o gael eich addysgu gan ddarlithwyr sy’n weithredol ym myd ymchwil, ac sy’n seilio eu haddysgu ar ymchwil •y profiad o gael eich addysgu gan staff a fydd yn eich adnabod fel unigolyn •Mae Hanes yn cynnig cyfleoedd sylweddol ar gyfer dysgu ac addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg

  • Qualification
    Bachelor of Arts (Hons)/BA (Hons)
  • Study mode
    Full-time
  • Duration
    3 years
  • Start date
    2018-09-24
  • Location
    Main Site - Cardiff,Cardiff
  • Fees & Finances
  • Channel Islands Year 1 £9,000
  • EU Year 1 £9,000
  • England Year 1 £9,000
  • Northern Ireland Year 1 £9,000
  • Scotland Year 1 £9,000
  • Wales Year 1 £9,000
  • International Year 1 £15,950
  • Qualification
    Bachelor of Arts (Hons)/BA (Hons)
  • Study mode
    Full-time
  • Duration
    3 years
  • Start date
    2019-09-23
  • Location
    Main Site - Cardiff,Cardiff
  • Fees & Finances
  • Channel Islands Year 1 £9,000
  • EU Year 1 £9,000
  • England Year 1 £9,000
  • Northern Ireland Year 1 £9,000
  • Scotland Year 1 £9,000
  • Wales Year 1 £9,000
  • International Year 1 £15,950