Cardiff University

32 nd
European Teaching Rankings 2018
=162 nd
World University Rankings 2018
Park Place, Cardiff, CF10 3AT, United Kingdom

Cymraeg a Gwleidyddiaeth

Drwy gyfuno’r Gymraeg a Gwleidyddiaeth, byddwch yn ennill cyfoeth o wybodaeth a sgiliau trosglwyddadwy, gan agor drysau i amrywiaeth o lwybrau gyrfa. Gall astudio gradd gydanrhydedd eich symbylu a rhoi boddhad, wrth ichi sylwi ar nodweddion tebyg a gwahaniaethau rhwng y ddau bwnc. Yn aml, ceir materion a safbwyntiau sy’n cysylltu’r pynciau, boed yn ddadansoddiad beirniadol, yn gyd-destun hanesyddol, neu’n ymchwil diweddar. Mae cwrs y Gymraeg yn berthnasol i’r Gymru gyfoes ac yn cael ei ddysgu gan Ysgol sydd wedi’i chydnabod am ansawdd ac effaith ei hymchwil. Nod y cwrs yw cynhyrchu graddedigion sydd â dealltwriaeth drwyadl (yn academaidd ac yn ymarferol) o’r iaith Gymraeg, ei llenyddiaeth a’i diwylliant, lefel uchel o sgiliau ieithyddol ar lafar ac yn ysgrifenedig, a sgiliau cyflogadwyedd a chreadigol datblygedig sy’n berthnasol i’r Gymru fodern. Mae’n cynnig modiwlau craidd a dewisol i roi seiliau ichi o ran iaith a llenyddiaeth, yn ogystal â chyfle i arbenigo mewn meysydd sydd o ddiddordeb personol neu’n gysylltiedig â’ch gyrfa. O astudio Gwleidyddiaeth, cewch archwilio sut mae seneddau a llywodraethau’n gweithredu, a gwerthuso syniadau gwleidyddol megis pŵer, rhyddid, democratiaeth, gwrthdaro, cyfreithlondeb ac atebolrwydd; ac mae’r cwrs yn cynnwys cysylltiadau rhyngwladol hefyd. Mae’r modiwlau’n amrywio, gan roi cyfle ichi archwilio sut mae gwleidyddiaeth yn gweithio ym Mhrydain a’r tu hwnt, yn ogystal ag ymchwilio i’r modd y mae polisi cyhoeddus yn cael ei lunio. Mae llwybrau gwaith eraill yn trafod cyfiawnder, democratiaeth, hawliau dynol a chysylltiadau rhyngwladol, gan ddarparu dealltwriaeth eang o wleidyddiaeth sydd wedi’i theilwra i’ch anghenion penodol chi. Nod y radd hon yw ceisio rhoi dealltwriaeth ardderchog o wleidyddiaeth a llywodraeth ichi, gan roi hefyd y sgiliau deallusol a chyfathrebu cysylltiedig a fydd o werth p'un a fyddwch yn gweithio i’r Llywodraeth neu yn y sectorau preifat neu wirfoddol. Nodweddion nodedig Mae nodweddion nodedig y cwrs yn cynnwys: •y cyfle i ddilyn cwrs gradd sy’n datblygu sgiliau sy’n berthnasol i’r byd academaidd ac i’r gweithle •modiwl craidd sy’n canolbwyntio ar sgiliau cyflogadwyedd, ac sy’n cynnig cyfnod o brofiad gwaith •ystod o fodiwlau craidd a dewisol sy’n astudio’r iaith, ei llenyddiaeth a’i diwylliant, yn ogystal â chyfle i arbenigo mewn meysydd sydd o ddiddordeb personol neu o ran eich gyrfa •y pwyslais ar sgiliau ymchwil ymarferol, a fydd o fudd ichi drwy gydol eich gyrfa •y pwyslais ar ddysgu annibynnol mewn awyrgylch cefnogol •y profiad o gael eich addysgu gan ddarlithwyr sy’n weithredol ym myd ymchwil, ac sy’n seilio eu haddysgu ar ymchwil •y profiad o gael eich addysgu gan staff a fydd yn eich adnabod fel unigolyn •cysylltiadau academaidd â Chynulliad Cenedlaethol Cymru trwy Ganolfan Llywodraethiant Cymru a pherthynas hir-sefydledig â sefydliadau cenedlaethol a rhyngwladol fel Senedd San Steffan, yr Undeb Ewropeaidd a NATO.

  • Qualification
    Bachelor of Arts (Hons)/BA (Hons)
  • Study mode
    Full-time
  • Duration
    3 years
  • Start date
    2018-09-24
  • Location
    Main Site - Cardiff,Cardiff
  • Fees & Finances
  • Channel Islands Year 1 £9,000
  • EU Year 1 £9,000
  • England Year 1 £9,000
  • Northern Ireland Year 1 £9,000
  • Scotland Year 1 £9,000
  • Wales Year 1 £9,000
  • International Year 1 £15,950
  • Qualification
    Bachelor of Arts (Hons)/BA (Hons)
  • Study mode
    Full-time
  • Duration
    3 years
  • Start date
    2019-09-23
  • Location
    Main Site - Cardiff,Cardiff
  • Fees & Finances
  • Channel Islands Year 1 £9,000
  • EU Year 1 £9,000
  • England Year 1 £9,000
  • Northern Ireland Year 1 £9,000
  • Scotland Year 1 £9,000
  • Wales Year 1 £9,000
  • International Year 1 £15,950