Cardiff University

=162 nd
World University Rankings 2018
32 nd
European Teaching Rankings 2018
Park Place, Cardiff, CF10 3AT, United Kingdom

Cymraeg a Cherddoriaeth

Drwy gyfuno’r Gymraeg a Cherddoriaeth, byddwch yn ennill cyfoeth o wybodaeth a sgiliau trosglwyddadwy, gan agor drysau i amrywiaeth o lwybrau gyrfa. Gall gradd gydanrhydedd eich symbylu a rhoi boddhad, wrth ichi sylwi ar nodweddion tebyg a gwahaniaethau rhwng y ddau bwnc. Yn aml ceir materion a safbwyntiau sy’n cysylltu’r pynciau, boed y rheiny’n ddadansoddiad beirniadol, yn gyd-destun hanesyddol, neu’n ymchwil diweddar. Mae cwrs y Gymraeg yn berthnasol i’r Gymru gyfoes ac yn cael ei ddysgu gan Ysgol sydd wedi’i chydnabod am ansawdd ac effaith ei hymchwil. Nod y cwrs yw cynhyrchu graddedigion sydd â dealltwriaeth drwyadl (yn academaidd ac yn ymarferol) o’r iaith Gymraeg, ei llenyddiaeth a’i diwylliant, lefel uchel o sgiliau ieithyddol ar lafar ac yn ysgrifenedig, a sgiliau cyflogadwyedd a chreadigol datblygedig sy’n berthnasol i’r Gymru fodern. Mae rhaglenni israddedig yr Ysgol Cerddoriaeth yn hyblyg ac yn heriol, gan roi cyfle ichi arbenigo a datblygu eich diddordebau eich hun ochr yn ochr â chael eich trwytho ym meysydd estheteg cerddoriaeth, dadansoddi, cyfansoddi, ethnogerddoreg, hanes cerddoriaeth, a pherfformiad. Mae lleoliad yr ysgol yn ychwanegu’n fawr at ei hapêl ar gyfer selogion cerddoriaeth, gan fod Caerdydd yn lleoliad gwych ar gyfer astudio cerddoriaeth yn y DU: mae gan y ddinas gwmni opera proffesiynol, Opera Cenedlaethol Cymru a Cherddorfa Symffoni broffesiynol, Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC. Mae’r Ysgol Cerddoriaeth yn mwynhau perthynas gynhyrchiol gyda'r ddau sefydliad sy'n caniatáu, er enghraifft, i fyfyrwyr fynychu ymarferion gwisg a phrynu tocynnau rhad ar gyfer cyngherddau. Nodweddion nodedig Mae nodweddion nodedig y cwrs yn cynnwys: •y cyfle i ddilyn cwrs gradd sy’n datblygu sgiliau sy’n berthnasol i’r byd academaidd ac i’r gweithle •modiwl craidd sy’n canolbwyntio ar sgiliau cyflogadwyedd, ac sy’n cynnig cyfnod o brofiad gwaith •ystod o fodiwlau craidd a dewisol sy’n astudio’r iaith, ei llenyddiaeth a’i diwylliant, yn ogystal â chyfle i arbenigo mewn meysydd sydd o ddiddordeb personol neu o ran eich gyrfa •y pwyslais ar sgiliau ymchwil ymarferol, a fydd o fudd ichi drwy gydol eich gyrfa •y pwyslais ar ddysgu annibynnol mewn awyrgylch cefnogol •y profiad o gael eich addysgu gan ddarlithwyr sy’n weithredol ym myd ymchwil, ac sy’n seilio eu haddysgu ar ymchwil •y profiad o gael eich addysgu gan staff a fydd yn eich adnabod fel unigolyn •mae'r hyfforddiant offerynnol yn cael ei ariannu'n llawn gan yr Ysgol Cerddoriaeth ar gyfer y prif offeryn yr ydych chi’n ei astudio, gan gynnwys cyfeiliant yn eich datganiad terfynol. •y modiwl Busnes Cerddoriaeth sy’n cynnig lleoliad gwaith byr •cyfleoedd dysgu fel gweithdai cyfansoddi, y dosbarthiadau meistr ar berfformio, cyfres cyngherddau’r Brifysgol, darlithoedd John Bird gan academyddion gwadd, ynghyd â’r sgyrsiau gyrfaoedd sy’n cynnig cyfleoedd i ddod i gysylltiad â gweithwyr proffesiynol sy’n weithredol ym myd cerddoriaeth

  • Qualification
    Bachelor of Arts (Hons)/BA (Hons)
  • Study mode
    Full-time
  • Duration
    3 years
  • Start date
    2018-09-24
  • Location
    Main Site - Cardiff,Cardiff
  • Fees & Finances
  • Channel Islands Year 1 £9,000
  • EU Year 1 £9,000
  • England Year 1 £9,000
  • Northern Ireland Year 1 £9,000
  • Scotland Year 1 £9,000
  • Wales Year 1 £9,000
  • International Year 1 £15,950
  • Qualification
    Bachelor of Arts (Hons)/BA (Hons)
  • Study mode
    Full-time
  • Duration
    3 years
  • Start date
    2019-09-23
  • Location
    Main Site - Cardiff,Cardiff
  • Fees & Finances
  • Channel Islands Year 1 £9,000
  • EU Year 1 £9,000
  • England Year 1 £9,000
  • Northern Ireland Year 1 £9,000
  • Scotland Year 1 £9,000
  • Wales Year 1 £9,000
  • International Year 1 £15,950