United Kingdom

Bangor University

201–250 th
Arts & humanities 2018
301–350 th
World University Rankings 2018
Bangor, Gwynedd, LL57 2DG, United Kingdom

Bangor University

Astudiaethau Plentyndod ac Ieuenctid a Chymdeithaseg

Mae Astudiaethau Plentyndod yn addas ar gyfer rhai sydd â diddordeb mewn gweithio â phlant a phobl ifanc ond nad ydynt eto wedi penderfynu ar lwybr gyrfa. Byddwch yn astudio modiwlau arloesol, a arweinir gan staff profiadol, i ddatblygu eich dealltwriaeth o hanes plentyndod, hawliau plant, natur plentyndod a swyddogaeth oedolion sy’n gweithio â phlant mewn cyd-destun cenedlaethol, Ewropeaidd a rhyngwladol. Byddwch yn gwneud gwaith astudio academaidd ym meysydd seicoleg, cymdeithaseg, polisi cymdeithasol, addysg, iechyd a lles yn ymwneud â bywydau plant. Diffinnir ‘Plentyndod’ fel bywyd plentyn o’i flynyddoedd cynnar i flynyddoedd yr arddegau, ac mae cynnwys y rhaglen yn canolbwyntio ar dair prif thema Plentyndod: Y Plentyn a’i (d)datblygiad; Y Plentyn a chymdeithas; Y Plentyn a byd addysg. Bydd y rhaglen drwyddi draw yn hyrwyddo sgiliau astudio a dealltwriaeth ar gyfer gwneud ymchwil i faterion yn ymwneud â phlentyndod. Mae agwedd Cymdeithaseg y cwrs yn ystyried natur gymdeithasol ein bywydau ac yn craffu ar berthynas pobl a grwpiau â’i gilydd. Mae’r cwrs yn gofyn y cwestiynau mawr megis: sut mae cymdeithas yn cael ei threfnu, beth yw pwrpas y trefniadau yna a phwy sydd ar ei ennill? Byddwn yn ystyried beth sy’n gwneud ein cymdeithas ni yng Nghymru ac Ewrop yn wahanol i gymdeithasau eraill ar draws y byd? Byddwn hefyd yn olrhain newidiadau mewn cymdeithas. Er mwyn ein cynorthwyo i lunio atebion byddwn yn cyflwyno y damcaniaethau mwyaf blaenllaw fel eich bod chi yn medru beirniadu a dod i’ch canlyniadau chi eich hun.

  • Qualification
    Bachelor of Arts (with Honours) - BA (Hons)
  • Study mode
    Full-time
  • Duration
    3 years
  • Start date
    2018-09-17
  • Location
    Main Site,Bangor