United Kingdom

Bangor University

201–250 th
Arts & humanities 2018
301–350 th
World University Rankings 2018
Bangor, Gwynedd, LL57 2DG, United Kingdom

Bangor University

Astudiaethau Plentyndod ac Ieuenctid

Mae hon yn radd amlddisgyblaethol i rai sydd â diddordeb mewn gweithio â phlant a phobl ifanc ond nad ydynt eto wedi penderfynu ar lwybr gyrfa. Byddwch yn astudio modiwlau arloesol, a arweinir gan staff profiadol o’r Ysgol Addysg, i ddatblygu eich dealltwriaeth o hanes plentyndod, hawliau plant, natur plentyndod a swyddogaeth oedolion sy’n gweithio â phlant mewn cyd-destun cenedlaethol, Ewropeaidd a rhyngwladol. Byddwch yn gwneud gwaith astudio academaidd ym meysydd seicoleg, cymdeithaseg, polisi cymdeithasol, addysg, iechyd a lles yn ymwneud â bywydau plant. Diffinnir ‘Plentyndod’ fel bywyd plentyn o’i flynyddoedd cynnar i flynyddoedd yr arddegau, ac mae cynnwys y rhaglen yn canolbwyntio ar dair prif thema Plentyndod: Y Plentyn a’i (d)datblygiad; Y Plentyn a chymdeithas; Y Plentyn a byd addysg. Bydd y rhaglen drwyddi draw yn hyrwyddo sgiliau astudio a dealltwriaeth i wneud ymchwil i faterion yn ymwneud â phlentyndod. Nod y radd Astudiaethau Plentyndod yw diwallu’r angen presennol am arbenigwyr gyda chymwysterau da a all weithio gyda phlant, pobl ifanc a’u teuluoedd mewn ystod o gyd-destunau, yn y gymuned ac mewn sefydliadau. Yn y rhaglen ceir cyfuniad o sylfaen academaidd gadarn ynghyd â dimensiwn ymarferol a gweithredol a fydd yn cynhyrchu gweithwyr proffesiynol a all ymdopi a sialensiau cymdeithas gyfoes a phrysur mewn gwlad ddwyieithog. Yn ystod y radd ceir cyfleoedd bob blwyddyn i fynd ar leoliadau i ddatblygu eich dealltwriaeth o agweddau ar anghenion a datblygiad plant ac i wneud ymchwil i faterion ac ymarfer cyfredol. Elfen allweddol o’r rhaglen yw’r amrywiaeth o siaradwyr gwadd ac ymweliadau addysgol, a fydd yn cyfoethogi’r hyn mae’r myfyrwyr yn ei ddysgu. Mae’r rhain yn cynnwys y cyfle i wirfoddoli a gwneud gwaith gyda phlant o gymunedau difreintiedig yn Romania ac i ymweld â Krakow yng ngwlad Pwyl a chydag arddangosfeydd mewn amgueddfeydd yn Lerpwl.

  • Qualification
    Bachelor of Arts (with Honours) - BA (Hons)
  • Study mode
    Full-time
  • Duration
    3 years
  • Start date
    2018-09-17
  • Location
    Main Site,Bangor