United Kingdom

Aberystwyth University

301–400 th
Arts & humanities 2018
301–350 th
World University Rankings 2018
Reception, Penglais, Aberystwyth, Ceredigion, SY23 3FL, United Kingdom

Aberystwyth University

Llenyddiaeth a Hanes Cymru

Wrth ddewis astudio’r cwrs BA Llenyddiaeth a Hanes Cymru ym Mhrifysgol Aberystwyth byddi’n dewis astudio cwrs unigryw ac arloesol a ddysgir ar y cyd gan ddwy adran uchel eu bri sef Adran y Gymraeg a’r Adran Hanes a Hanes Cymru. Wrth ddilyn y cwrs hwn byddi’n cael dy ddysgu gan staff sydd yn arloesi yn eu meysydd. Mae’r cynllun gradd Llenyddiaeth a Hanes Cymru yn gwrs Anrhydedd Sengl amlddisgyblaethol unigryw ac arloesol. Mae gan Gymru draddodiad llenyddol cyfoethog sy’n ymestyn yn ôl i ganol y mileniwm cyntaf, ac mae llenyddiaeth wedi chwarae rhan gyson a chanolog yn niwylliant Cymru. O astudio’r cwrs hwn byddi’n astudio datblygiad llenyddiaeth Gymraeg mewn cyd-destun hanesyddol ac yn edrych ar y berthynas rhwng llenyddiaeth a hanes o sawl safbwynt gwahanol. Cei gyfle i astudio testunau penodol yn fanwl a chyfle hefyd i werthfawrogi’r darlun hanesyddol ehangach. Byddi’n ymchwilio i’r ffyrdd cyffrous y gellir defnyddio’r testunau llenyddol eu hunain er mwyn deall y gorffennol. Rhennir y gwaith dysgu rhwng yr Adran Hanes a Hanes Cymru ac Adran y Gymraeg, dwy adran a enillodd glod am eu gwaith dysgu ac ymchwil yn eu priod feysydd. Bwriad modiwlau’r flwyddyn gyntaf yw rhoi sail eang o wybodaeth wrth i ti baratoi i astudio’n ddwysach yn yr ail a’r drydedd flwyddyn. Mae rhychwant eang o fodiwlau ar gael iti ddewis o’u plith yn y ddwy adran. Yn ystod yr ail a’r drydedd flwyddyn cei ddewis modiwlau a fydd yn datblygu’r egwyddorion a ddysgwyd gen ti yn y flwyddyn gyntaf. Yn yr Adran Hanes a Hanes Cymru cei ddewis o fodiwlau sy’n cynnwys ‘Cymru a’r Tuduriaid 1530-1603’, ‘Cymdeithas a Diwylliant Cymru 1660-1800’ a ‘Hanes Cenedlaetholdeb yn Ynysoedd Prydain’. Mae enghreifftiau o’r dewis a gynigir gan Adran y Gymraeg yn cynnwys ‘Barddoniaeth yr Ugeinfed Ganrif’, ‘Rhyddiaith a Drama 1900-1990’ a ‘Beirniadu Llenyddiaeth’. Fel myfyriwr Anrhydedd Sengl cei gymryd Pynciau Hanes Arbennig, ac ysgrifennu traethawd hir y flwyddyn olaf yn y naill adran neu’r llall, yn dibynnu ar y pwnc y byddi’n ei ddewis a dy ddiddordebau penodol. Bydd llawer o raddedigion yr Adran Hanes a Hanes Cymru yn mynd i weithio mewn meysydd sy’n uniongyrchol berthnasol i’r pwnc, fel archifau, y diwydiant treftadaeth ac amgueddfeydd, tra bydd eraill yn cael gwaith mewn amrywiaeth o feysydd proffesiynol eraill. Mae’r meysydd hynny’n cynnwys newyddiaduraeth, y cyfryngau, hysbysebu, y gyfraith, llywodraeth leol, llyfrgellyddiaeth, rheoli cofnodion, amrywiaeth o swyddi sy’n ymwneud ag ymchwil, ysgrifennu’n broffesiynol, yr heddlu a’r gwasanaeth milwrol, cysylltiadau cyhoeddus a rheoli adnoddau dynol.

  • Qualification
    Bachelor of Arts (with Honours) - BA (Hons)
  • Study mode
    Full-time
  • Duration
    3 years
  • Start date
    2018-09-24
  • Location
    Main Site (Aberystwyth),Aberystwyth
  • Fees & Finances
  • EU Year 1 £9,000
  • England Year 1 £9,000
  • Northern Ireland Year 1 £9,000
  • Scotland Year 1 £9,000
  • Wales Year 1 £9,000
  • International Year 1 £13,200