United Kingdom

Aberystwyth University

301–400 th
Arts & humanities 2018
301–350 th
World University Rankings 2018
Reception, Penglais, Aberystwyth, Ceredigion, SY23 3FL, United Kingdom

Aberystwyth University

Hanes Modern a Gwleidyddiaeth

Wrth ddewis astudio’r cwrs BA Gwleidyddiaeth a Hanes Modern ym Mhrifysgol Aberystwyth byddi’n cael y cyfle i astudio mewn dwy adran uchel iawn eu bri sy’n arloesi o ran dysgu ac ymchwil, sef yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol a’r Adran Hanes a Hanes Cymru. Mae’r cynllun gradd mewn Gwleidyddiaeth a Hanes Modern yn un cyffrous a diddorol. Mae’r cynllun gradd Anrhydedd Sengl mewn Gwleidyddiaeth a Hanes Modern yn canolbwyntio ar hanes a gwleidyddiaeth ddiweddar. Mae’n cyfuno arbenigedd haneswyr a gwyddonwyr gwleidyddol mewn cwrs cyfrannol sy’n rhoi cryn hyblygrwydd i ti wrth ddewis modiwlau. Rhennir y gwaith dysgu rhwng yr Adran Hanes a Hanes Cymru a’r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol, dwy adran a enillodd glod am eu gwaith dysgu ac ymchwil yn eu priod feysydd. Mae’r rhan fwyaf ohonom yn chwilfrydig am y gorffennol ac am y ffordd mae cymdeithas ddynol wedi esblygu dros amser. Yn ogystal â bod yn ddiddorol ynddo’i hun, mae astudio elfen o hanes yn cynnig gweledigaeth a all ein helpu i ddeall digwyddiadau’r byd sydd ohoni. Bydd elfen wleidyddol y radd hon yn trafod y syniadau sy’n sail i’n bywydau o ddydd i ddydd, megis cyfiawnder, rhyddid, grym, cymuned, cydraddoldeb a dinasyddiaeth. Bydd gradd mewn Gwleidyddiaeth a Hanes Modern yn caniatáu i ti roi digwyddiadau diweddar mewn perspectif ac yn rhoi i ti sgiliau dadansoddi dehongli a chyfathrebu, sydd mor bwysig mewn bywyd bob dydd. Sefydlwyd yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn 1919 ar ddiwedd y Rhyfel Byd Cyntaf, a dyma’r adran brifysgol gyntaf o’i bath, ac mae’n parhau i fod yn un o’r adrannau gwleidyddiaeth a chysylltiadau rhyngwladol mwyaf yn Ewrop, a chanddi dros 40 o staff academaidd. Yn y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil diweddaraf (2014), cafodd yr Adran ei enwi fel yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol gorau yng Nghymru a seithfed gorau yn y Deyrnas Unedig am ansawdd ymchwil, gyda 69% o gyhoeddiadau a gyflwynwyd o safon sydd gyda’r dosbarthiadau Gorau yn y Byd ac yn Rhagorol yn Rhyngwladol. Mae’r awyrgylch dysgu cynhyrfus a chosmopolitaidd yma yn croesawu myfyrwyr o bedwar ban byd, ac yn gartref bywiog i drafodaeth wleidyddol gyfoes. Mae gan yr adran hanes hir o edrych ar y byd a gofyn cwestiynau sylfaenol am ystod o bynciau – materion megis rhyfel, cudd-wybodaeth a diogelwch, tlodi byd-eang, moeseg a newid hinsawdd; sut y daeth y byd i fod fel ag y mae, a sut y mae hynny’n newid o hyd. Bu modd astudio Hanes fel pwnc ym Mhrifysgol Aberystwyth ers ei sefydlu yn 1872, a thros y 140 mlynedd diwethaf rydym wedi perffeithio’r cynlluniau gradd yr ydym yn eu cynnig er mwyn sicrhau dy fod yn cael y radd orau posib. Mae darlithwyr yr Adran Hanes a Hanes Cymru i gyd hefyd yn ymwneud â gwaith ymchwil diweddar. Yn yr asesiad Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2014, roedd 95% o ymchwil a gynnalwyd yn Brifysgol Aberystwyth o safon â gydnabyddir yn rhyngwladol. Gallwn felly roi cyfle iti ddatblygu dy ddoniau a dy ddiddordebau hanesyddol drwy astudio’n agos gyda thiwtoriaid sy’n arbenigwyr yn eu meysydd. Yn ogystal â Llyfrgell wych y Brifysgol, gall myfyrwyr Gwleiyddiaeth a Hanes Modern yn Aberystwyth fwynhau aelodaeth gyflawn o Lyfrgell Genedlaethol Cymru. Dim ond pum llyfrgell hawlfraint a geir ledled Prydain, a’n Llyfrgell Genedlaethol ni yw un ohonynt. Mae’n dal mwy na 6 miliwn o lyfrau, mapiau a phrintiadau, ac mae’r cwbl o fewn pum munud i’r Adrannau. Bydd yr adnoddau hyn yn werthfawr dros ben wrth i ti ysgrifennu dy draethawd estynedig yn dy drydedd flwyddyn. Mae cymdeithasau myfyrwyr bywiog yn y ddwy adran, sydd yn trefnu darlithoedd gan siaradwyr gwadd, ymweliadau â lleoedd o ddiddordeb a digwyddiadau cymdeithasol drwy’r flwyddyn. Mae ganddynt hefyd gysylltiadau â phrifysgolion dethol dramor, a dyma gyfle gwych i ti ehangu dy orwelion academaidd a chymdeithasol drwy dreulio rhan o dy brofiad prifysgol dramor.

  • Qualification
    Bachelor of Arts (with Honours) - BA (Hons)
  • Study mode
    Full-time
  • Duration
    3 years
  • Start date
    2018-09-24
  • Location
    Main Site (Aberystwyth),Aberystwyth
  • Fees & Finances
  • EU Year 1 £9,000
  • England Year 1 £9,000
  • Northern Ireland Year 1 £9,000
  • Scotland Year 1 £9,000
  • Wales Year 1 £9,000
  • International Year 1 £13,200