United Kingdom

Aberystwyth University

301–400 th
Arts & humanities 2018
301–350 th
World University Rankings 2018
Reception, Penglais, Aberystwyth, Ceredigion, SY23 3FL, United Kingdom

Aberystwyth University

Gwleidyddiaeth Ryngwladol

Mae Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn bwnc hollol ddeinamig. Mae’n adlewyrchu bywiogrwydd, ynni a datblygiadau byd sy’n newid yn gyflym. Wrth ddewis astudio’r cwrs gradd Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol ym Mhrifysgol Aberystwyth byddi’n dewis astudio yn y ganolfan orau yn y Deyrnas Gyfunol ar gyfer astudio cysylltiadau rhyngwladol. Mae’r adran hefyd yn gartref i Sefydliad Gwleidyddiaeth Cymru. Mae’r cyfuniad o ddysgu rhagorol ac ymchwil gyffrous yn creu profiad unigryw ac eithriadol yma, a hynny mewn awyrgylch gyfeillgar. Ceir cyfleoedd yma i ddatgblygu sgiliau trosglwyddadwy a fydd yn cynyddu dy gyfle am yrfaoedd, ac rydym yn cynnig cynllun lleoliadau yn Nhŷ’r Cyffredin a’r Cynulliad Cenedlaethol, yn ogystal â rhaglenni cyfnewid gyda gwledydd Ewropeaidd, Canada ac Awstralia i’n myfyrwyr. Rydym yn rhoi cyfle i’n myfyrwyr efelychu argyfyngau gwleidyddol ar gyrsiau maes cyffrous, ac mae hyn oll wedi ei leoli mewn amgylchedd bywiog a chosmopolitaidd yng nghalon campws y Brifysgol. Diben astudio gwleidyddiaeth yw edrych yn fanwl ar waith a phatrymau llywodraeth, ac yn bwysicach fyth, ar ganlyniadau’r gwaith a’r patrymau rheiny . Wrth astudio’r cwrs gradd Gwleidyddiaeth Ryngwladol a Gwleidyddiaeth Cymru byddi’n cyfuno’r astudiaeth o Wleidyddiaeth Ryngwladol â sylw arbennig i Wleidyddiaeth Cymru. Bydd elfen ryngwladol y cwrs yn amlwg yn delio â phob math o newidiadau byd-eang, yn economaidd, diwylliannol a gwleidyddol. Mae Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn bwnc cyffrous a rhyngddisgyblaethol sy’n cynnwys Gwleidyddiaeth, Hanes, Athroniaeth, y Gyfraith, Daearyddiaeth a Chymdeithaseg er mwyn ceisio deall y byd o’n cwmpas a’r problemau sy’n ei wynebu. Yn ogystal ag edrych ar waith a phatrymau llywodraeth, astudio’r syniadau sy’n sail i bob agwedd o rym a chymdeithas a chysyniadau sylfaenol megis rhyddid, cymuned, cyfiawnder, cydraddoldeb a hawliau, ceir cyfle hefyd ar y cwrs gradd hwn i ganolbwyntio ar ddatblygiadau gwleidyddol yng Nghymru, effaith datganoli ar Gymru ac ar ei sefyllfa o fewn y Deyrnas Gyfunol ac Ewrop. Sefydlwyd yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn 1919 ar ddiwedd y Rhyfel Byd Cyntaf, a dyma’r adran brifysgol gyntaf o’i bath, ac mae’n parhau i fod yn un o’r adrannau gwleidyddiaeth a chysylltiadau rhyngwladol mwyaf yn Ewrop, a chanddi dros 40 o staff academaidd. Mae rhai graddedigion wedi dilyn gyrfa yn y gwasanaeth sifil (yn enwedig y Swyddfa Dramor, y Weinyddiaeth Amddiffyn, a’r Adran Datblygu Rhyngwladol); sefydliadau rhyngwladol (NATO, yr Undeb Ewropeaidd a’r Cenhedloedd Unedig); mudiadau anllywodraethol (Amnest Rhyngwladol, Oxfam); ac ymchwil gwleidyddol, gyda chwmnïau preifat yn ogystal ag yn San Steffan, Cynulliad Cenedlaethol Cymru a Senedd Ewrop. Mae eraill yn dilyn gyrfa yn y lluoedd arfog, y cyfryngau (fel newyddiadurwyr neu gyflwynwyr radio neu deledu), y gyfraith a byd addysg.

  • Qualification
    Bachelor of Arts (with Honours) - BA (Hons)
  • Study mode
    Full-time
  • Duration
    3 years
  • Start date
    2018-09-24
  • Location
    Main Site (Aberystwyth),Aberystwyth
  • Fees & Finances
  • EU Year 1 £9,000
  • England Year 1 £9,000
  • Northern Ireland Year 1 £9,000
  • Scotland Year 1 £9,000
  • Wales Year 1 £9,000
  • International Year 1 £13,200