United Kingdom

Aberystwyth University

301–400 th
Arts & humanities 2018
301–350 th
World University Rankings 2018
Reception, Penglais, Aberystwyth, Ceredigion, SY23 3FL, United Kingdom

Aberystwyth University

Drama ac Astudiaethau Theatr/Astudiaethau Ffilm a Theledu

Wrth ddewis astudio BA Drama ac Astudiaethau Theatr / Astudiaethau Ffilm a Theledu ym Mhrifysgol Aberystwyth cei brofiad creadigol a bywiog heb ei ail. Byddi’n astudio mewn adeilad modern sy’n cynnig cyfleusterau gwych, ac sy’n gartref i staff brwdfrydig fydd yn dy ysbrydoli. Cei ymwneud â phartneriaid megis y BBC, S4C, Boom, Fiction Factory, Theatr Genedlaethol Cymru, Cwmni Theatr Arad Goch a llu o rhai eraill. Mae’r cwrs yma wedi ei ddylunio i sicrhau fod cydbwysedd rhwng profiad beirniadol a chreadigol, ac mae’n ein galluogi i ddatblygu sgiliau deallusol, perfformiadol a thechnegol ein myfyrwyr. Adran egnïol a chreadigol lle daw drama a theatr, ffilm a’r cyfryngau, a senograffeg a dylunio theatr ynghyd. Cyfleusterau ac adnoddau rhagorol ar gyfer gwaith ffilm a theledu ymarferol: stiwdio deledu ac oriel diffiniad uchel â 3 chamera ac adnoddau allwedd croma ac awtociw; 30 o systemau golygu – meddalwedd Avid Media Composer, Adobe Premiere Pro a Final Cut Pro; 50 o gamerâu HD o safon a ddefnyddir yn y diwydiant – fformatau P2 ac AVCHD; camerâu DSLR a GoPro ar gael. Cysylltiadau â phartneriaid allweddol yn y diwydiant megis y BBC, Gŵyl Ffilmiau Tribeca, S4C, Fiction Factory, Gŵyl Ffilmiau Ryngwladol Caeredin, Gŵyl Ffilmiau Ffresh, BAFTA, Avid ac Arad Goch. Cyfleoedd cyfnewid cyffrous yn Ewrop ac yn rhyngwladol. Cyfle i ddefnyddio’r archif Sgrin a Sain yn y Llyfrgell Genedlaethol a Chanolfan y Celfyddydau ar y campws. Mae llawer o’n graddedigion wedi dod o hyd i swyddi yn y meysydd hyn: Ymchwilwyr, golygyddion, rheolwyr llawr, gweithredwyr camera, dylunwyr a chyfarwyddwyr cwmnïau cynhyrchu ffilm a theledu; Dosbarthu ffilmiau; Gwneud ffilmiau ar eu liwt eu hunain; Marchnata a Chysylltiadau Cyhoeddus; Rhaglennu gwyliau ffilm; Hysbysebu; Gweinyddu’r celfyddydau; Addysg.

  • Qualification
    Bachelor of Arts (with Honours) - BA (Hons)
  • Study mode
    Full-time
  • Duration
    3 years
  • Start date
    2018-09-24
  • Location
    Main Site (Aberystwyth),Aberystwyth
  • Fees & Finances
  • EU Year 1 £9,000
  • England Year 1 £9,000
  • Northern Ireland Year 1 £9,000
  • Scotland Year 1 £9,000
  • Wales Year 1 £9,000
  • International Year 1 £13,200