United Kingdom

Aberystwyth University

301–400 th
Arts & humanities 2018
301–350 th
World University Rankings 2018
Reception, Penglais, Aberystwyth, Ceredigion, SY23 3FL, United Kingdom

Aberystwyth University

Drama ac Astudiaethau Theatr

Wrth ddewis astudio BA Drama ac Astudiaethau Theatr ym Mhrifysgol Aberystwyth cei brofiad creadigol a bywiog heb ei ail. Byddi’n astudio mewn adeilad modern sy’n cynnig cyfleusterau gwych, a staff brwdfrydig fydd yn dy ysbrydoli. Cei ymwneud â phartneriaid megis y BBC, S4C, Boom, Fiction Factory, Theatr Genedlaethol Cymru, Cwmni Theatr Arad Goch a llu o rhai eraill. Mae’r cwrs yma wedi ei ddylunio i sicrhau fod cydbwysedd rhwng profiad beirniadol a chreadigol, ac mae’n galluogi ein myfyrwyr i ddatblygu eu sgiliau deallusol, perfformiadol a thechnegol. Adran egnïol a chreadigol lle daw drama a theatr, ffilm a’r cyfryngau, a senograffeg a dylunio theatr ynghyd. Cysylltiadau â phartneriaid allweddol yn y diwydiant fel National Theatre Wales, Music Theatre Wales, Cwmni Theatr Quarantine a Theatr Genedlaethol Cymru. Cyfleusterau ac adnoddau rhagorol ar gyfer gwaith ymarferol: tair stiwdio ymarfer, pob un ag adnoddau technegol hyblyg; 2 stiwdio fawr ag offer o safon broffesiynol a rigiau goleuadau digidol a reolir drwy ETC Congo a phaneli rheoli Strand Lighting, offer PA Yamaha a Soundcraft, systemau clyweledol Sanyo a goleuadau Strand, a dau NXAMP; yn ogystal â chyfleusterau gwisgoedd a wardrob. Cysylltiadau agos â Chanolfan y Celfyddydau ar y campws, sef un o’r canolfannau celfyddydau mwyaf yng Nghymru, sy’n cyflwyno gwaith theatr a dawns cenedlaethol a rhyngwladol yn rheolaidd. Mae llawer o’n graddedigion wedi dod o hyd i swyddi yn y meysydd hyn: Actio a pherfformio; Cyfarwyddo; Dylunio; Sgriptio; Dysgu ac addysg; Gweinyddu’r celfyddydau; Marchnata; Rheoli; Cysylltiadau Cyhoeddus.

  • Qualification
    Bachelor of Arts (with Honours) - BA (Hons)
  • Study mode
    Full-time
  • Duration
    3 years
  • Start date
    2018-09-24
  • Location
    Main Site (Aberystwyth),Aberystwyth
  • Fees & Finances
  • EU Year 1 £9,000
  • England Year 1 £9,000
  • Northern Ireland Year 1 £9,000
  • Scotland Year 1 £9,000
  • Wales Year 1 £9,000
  • International Year 1 £13,200