United Kingdom

Aberystwyth University

301–400 th
Arts & humanities 2018
301–350 th
World University Rankings 2018
Reception, Penglais, Aberystwyth, Ceredigion, SY23 3FL, United Kingdom

Aberystwyth University

Daearyddiaeth a Hanes Cymru

Wrth ddewis astudio’r cwrs BA anrhydedd cyfun hwn, Daearyddiaeth a Hanes Cymru, ym Mhrifysgol Aberystwyth byddi’n dewis astudio mewn dwy adran uchel eu bri. Yr Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear Prifysgol Aberystwyth yw un o’r adrannau mwyaf ei maint a’r mwyaf byrlymus o’i bath ym Mhrydain. Mae’r Adran Hanes a Hanes Cymru yn cael ei chydnabod yn un o’r prif adrannau Hanes ym Mhrydain. Mae adnoddau dysgu ac addysgu gwych yn yr adran – sy’n berffaith i dy helpu i gael y canlyniadau gorau posibl ac i archwilio meysydd newydd a chyffrous. Mae elfen ddaearyddol y cwrs yn gyfuniad o ddaearyddiaeth ffisegol a dynol, felly byddi’n profi amrywiaeth gyflawn y ddisgyblaeth ar draws y prosesau ffisegol a dynol sy’n llunio tirweddau a lleoedd ledled y byd. Byddi hefyd yn astudio’r materion gwleidyddol ac amgylcheddol sy’n codi yn sgîl perthynas dyn â’r ddaear. Defnyddir enghreifftiau o bedwar ban byd, ond mae llawer o’r modiwlau yn canolbwyntio’n benodol ar Gymru ac ar ei daearyddiaeth a’i hamgylchedd. Mae’r rhan fwyaf ohonom yn chwilfrydig am y gorffennol ac am y ffordd mae cymdeithas ddynol wedi esblygu dros amser. Yn ogystal â bod yn ddiddorol ynddo’i hun, mae astudio hanes yn cynnig gweledigaeth a all ein helpu i ddeall digwyddiadau’r byd sydd ohoni. Bydd elfen Hanes y cwrs gradd yn dy alluogi i roi’r gorffennol mewn perspectif gan feithrin sgiliau dadansoddol, dehongli a chyfathrebu, sydd mor bwysig mewn bywyd bob dydd. Mae cymuned glos a chyfeillgar yn bodoli yn y ddwy Adran, sydd wedi eu lleoli yng nghanol campws y Brifysgol. Mae Aberystwyth yn lleoliad gwych i astudio Daearyddiaeth – rhwng y môr a’r mynydd ar arfodir hardd Ceredigion. Mae’r adran yn gartref i labordai ac ystafelloedd cyfrifiadurol o’r radd flaenaf ac yn rhan o’r cwrs bydd myfyrwyr yn gwneud gwaith maes dwys ac yn cael cyfle i deithio. Mae yma Gymdeithas Hanes fywiog sy’n trefnu darlithoedd gan siaradwyr gwadd, ymweliadau â mannau o ddiddordeb a digwyddiadau cymdeithasol drwy’r flwyddyn. Mae gennym hefyd nifer o gysylltiadau â phrifysgolion tramor, sy’n golygu y gallet fanteisio ar y cyfle i dreulio amser dramor yn mwynhau diwylliant hanesyddol gwahanol. Mae cyflogadwyedd yn rhan annatod o’r holl gyrsiau a gynigiwn. Mae ein graddau yn cynnig sylfaen gadarn ar gyfer amrywiaeth eang o yrfaoedd ar draws ystod o sectorau. Mewn economi fyd-eang sy’n newid yn gyflym, mae ein graddedigion yn gallu addasu a galw ar ystod o sgiliau trosglwyddadwy, gan sicrhau bod galw amdanynt drwy’r amser. Ymhlith y setiau sgiliau y mae: Gwell sgiliau mathemategol a chyfrifiadurol; Sgiliau datrys problemau a meddwl creadigol effeithiol; Sgiliau technoleg gwybodaeth cadarn; Gallu gweithio’n annibynnol ac fel rhan o dîm; Sgiliau rheoli amser a threfnu; Sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig ac ar lafar; Hunangymhelliant a hunanddibyniaeth. Mae ein graddedigion wedi cael swyddi fel ymgynghorwyr amgylcheddol, cynllunwyr, gweision sifil, syrfewyr, ac ym myd addysg, ymhlith swyddi eraill.

  • Qualification
    Bachelor of Arts (with Honours) - BA (Hons)
  • Study mode
    Full-time
  • Duration
    3 years
  • Start date
    2018-09-24
  • Location
    Main Site (Aberystwyth),Aberystwyth
  • Fees & Finances
  • EU Year 1 £9,000
  • England Year 1 £9,000
  • Northern Ireland Year 1 £9,000
  • Scotland Year 1 £9,000
  • Wales Year 1 £9,000
  • International Year 1 £13,200