United Kingdom

Aberystwyth University

301–400 th
Arts & humanities 2018
301–350 th
World University Rankings 2018
Reception, Penglais, Aberystwyth, Ceredigion, SY23 3FL, United Kingdom

Aberystwyth University

Daearyddiaeth a Gwleidyddiaeth Ryngwladol

Wrth ddewis astudio’r cwrs BA Anrhydedd Cyfun mewn Daearyddiaeth a Gwleidyddiaeth Ryngwladol ym Mhrifysgol Aberystwyth, byddi’n dewis astudio mewn dwy adran uchel iawn eu bri. Yr Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear yw un o’r adrannau mwyaf ei maint, a’r mwyaf byrlymus o’i math ym Mhrydain. Mae adnoddau gwych yn yr adran ar gyfer dysgu ac addysgu – sy’n berffaith i dy helpu i gael y canlyniadau gorau posibl ac i archwilio meysydd newydd a chyffrous. Mae Daearyddwyr yn astudio’r prosesau dynol a ffisegol sy’n ffurfio’r ddaear, a’r materion gwleidyddol ac amgylcheddol a gwyd yn sgîl rhyngweithio rhwng pobl a’r ddaear, ac o ddewis Aberystwyth byddi’n dewis un o’r mannau gorau posib i astudio Daearyddiaeth. Yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol yw’r ganolfan orau yn y Deyrnas Gyfunol ar gyfer astudio cysylltiadau rhyngwladol. Mae’r adran hefyd yn gartref i Sefydliad Gwleidyddiaeth Cymru. Mae’r cyfuniad o ddysgu rhagorol ac ymchwil gyffrous yn creu profiad unigryw ac eithriadol yma, a hynny mewn awyrgylch gyfeillgar. Ceir cyfleoedd i ddatgblygu sgiliau trosglwyddadwy a fydd yn cynyddu dy gyfle am yrfa ac mae hyn oll wedi’i leoli mewn amgylchedd bywiog a chosmopolitaidd yng nghalon campws y Brifysgol. Gan ein bod yn gymuned Ddaearyddiaeth fawr a deinamig, gallwn gynnig amrywiaeth eang iawn i chi o arbenigedd, cyfleoedd a chyfleusterau daearyddol:Prosesau dalgylch Afon; Rhewlifeg; Biodaearyddiaeth; Newid Amgylcheddol Cwaternaidd; Tueddiadau cyfoes mewn Daearberyglon; Cynaliadwyedd Trefol; Datblygu Rhanbarthol; Daearyddiaeth Wleidyddol a Diwylliannol; Cyfleoedd am waith maes yn Seland Newydd, Creta, Efrog Newydd, Ffrainc, Iwerddon, Gwlad yr Iâ, Mynydd Etna, Ecuador a Pheriw, ymhlith eraill; Gwobrau teithio ar gael bob blwyddyn i ariannu eich anturiaethau (hyd at £400); Cyfleusterau addysgu o’r radd flaenaf a’r dechnoleg ddiweddaraf i gyfoethogi dysgu; Labordai llawn cyfarpar yn cynnwys amrywiaeth o offerynnau dadansoddi e.e. sbectromedrau a sganwyr craidd sy’n gallu cael eu defnyddio ar gyfer gwaith maes ac astudio yn annibynnol. Diben astudio gwleidyddiaeth yw edrych yn fanwl ar waith a phatrymau llywodraeth, ac yn bwysicach fyth, ar ganlyniadau’r gwaith a’r patrymau rheiny . Wrth astudio’r cwrs gradd Gwleidyddiaeth Ryngwladol a Gwleidyddiaeth Cymru byddi’n cyfuno’r astudiaeth o Wleidyddiaeth Ryngwladol â sylw arbennig i Wleidyddiaeth Cymru. Bydd elfen ryngwladol y cwrs yn amlwg yn delio â phob math o newidiadau byd-eang, yn economaidd, diwylliannol a gwleidyddol. Mae Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn bwnc cyffrous a rhyngddisgyblaethol sy’n cynnwys Gwleidyddiaeth, Hanes, Athroniaeth, y Gyfraith, Daearyddiaeth a Chymdeithaseg er mwyn ceisio deall y byd o’n cwmpas a’r problemau sy’n ei wynebu. Yn ogystal ag edrych ar waith a phatrymau llywodraeth, astudio’r syniadau sy’n sail i bob agwedd o rym a chymdeithas a chysyniadau sylfaenol megis rhyddid, cymuned, cyfiawnder, cydraddoldeb a hawliau, ceir cyfle hefyd ar y cwrs gradd hwn i ganolbwyntio ar ddatblygiadau gwleidyddol yng Nghymru, effaith datganoli ar Gymru ac ar ei sefyllfa o fewn y Deyrnas Gyfunol ac Ewrop. Sefydlwyd yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn 1919 ar ddiwedd y Rhyfel Byd Cyntaf, a dyma’r adran brifysgol gyntaf o’i bath, ac mae’n parhau i fod yn un o’r adrannau gwleidyddiaeth a chysylltiadau rhyngwladol mwyaf yn Ewrop, a chanddi dros 40 o staff academaidd. Mae rhai graddedigion wedi dilyn gyrfa yn y gwasanaeth sifil (yn enwedig y Swyddfa Dramor, y Weinyddiaeth Amddiffyn, a’r Adran Datblygu Rhyngwladol); sefydliadau rhyngwladol (NATO, yr Undeb Ewropeaidd a’r Cenhedloedd Unedig); mudiadau anllywodraethol (Amnest Rhyngwladol, Oxfam); ac ymchwil gwleidyddol, gyda chwmnïau preifat yn ogystal ag yn San Steffan, Cynulliad Cenedlaethol Cymru a Senedd Ewrop. Mae eraill yn dilyn gyrfa yn y lluoedd arfog, y cyfryngau (fel newyddiadurwyr neu gyflwynwyr radio neu deledu), y gyfraith a byd addysg.

  • Qualification
    Bachelor of Arts (with Honours) - BA (Hons)
  • Study mode
    Full-time
  • Duration
    3 years
  • Start date
    2018-09-24
  • Location
    Main Site (Aberystwyth),Aberystwyth
  • Fees & Finances
  • EU Year 1 £9,000
  • England Year 1 £9,000
  • Northern Ireland Year 1 £9,000
  • Scotland Year 1 £9,000
  • Wales Year 1 £9,000
  • International Year 1 £13,200