401–500 th
World University Rankings 2020
51-75 th
European Teaching Rankings 2019
Reception, Penglais, Aberystwyth, Ceredigion, SY23 3FL, United Kingdom

Cymraeg/Mathematics

Trwy ddewis astudio’r Gymraeg a Mathemateg ym Mhrifysgol Aberystwyth byddwch yn perthyn i ddwy adran sydd wedi’u hen sefydlu a chanddynt dros 100 mlynedd o brofiad o ymchwilio a dysgu’r ddau egwyddor ond sydd hefyd yn addysgu’n ddeinamig mewn modd sy’n procio’r meddwl. Os oes gennych ddiddordeb mewn datblygu ac ymchwilio i drysorau pellach ym myd Iaith a Llenyddiaeth Gymraeg a chanfod adnabyddiaeth a dadansoddiad o siapiau a phatrymau trwy gasglu a chyfrifo data, dyma’r radd i chi. Canfyddwch ddisgyblaeth sy’n cyfuno adnabod a dadansoddi siapiau a phatrymau trwy gasglu a chyfrifo data. Dysgir Mathemateg yn Aberystwyth ers 1872, felly mae gan yr adran dros 140 o flynyddoedd o ragoriaeth dysgu, ac yn cyflogi darlithwyr sy’n addysgwyr ymroddedig ac yn ymchwilwyr sy’n cael eu cydnabod yn rhyngwladol. Bydd gradd mewn Mathemateg yn agor ystod eang o lwybrau gyrfa i chi, ac mae’r radd hon wedi’i hachredu gan y **Sefydliad Mathemateg a’i Chymwysiadau (IMA),** sef prif gymdeithas ddysgedig a phroffesiynol y DU ar gyfer mathemateg, a fydd yn cyfrannu’n uniongyrchol at gael eich cydnabod yn Fathemategydd Siartredig. Mae amrywiaeth hynod ddiddorol o cyrsiau unigol ar gael yn yr Adran, sy’n adlewyrchu diddordebau ymchwil diweddaraf ein darlithwyr: hanes ein llên a llenyddiaeth gyfoes, theori lenyddol, llenyddiaeth plant, llên gwerin, astudiaethau menywod ac astudiaethau rhywedd, ysgrifennu creadigol a sgriptio, cyweiriau a thafodieithoedd y Gymraeg, yr iaith mewn cyd-destunau proffesiynol, cyfieithu ac addasu, y Gymraeg a'r cyfryngau, cymdeithaseg yr iaith Gymraeg. Iaith Gyntaf ac Ail Iaith: mae’r cynllun gradd hwn yn cynnwys llwybrau Ail Iaith ac Iaith Gyntaf. Mae’r Adran yn cynnig nifer o fodiwlau trwy gyfrwng y Gymraeg. Y Llyfrgell Genedlaethol Cymru: Yn ogystal â’r adnoddau helaeth sydd gan y Brifysgol, mae’r Adran ar stepen drwys y Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Adran sy’n Agorau Drysau: Mae llu o bosibiliadau ar gael ar ôl graddio yn y Gymraeg o Brifysgol Aberystwyth. Bywyd Cymdeithasol Cymraeg Byrlymus:Yn Aberystwyth gallwch fyw drwy gyfrwng y Gymraeg a mwynhau'r elfen gymdeithasol sydd i'r gymuned Gymraeg yma. Ymaelodwch ag UMCA, dewch i fyw yn neuadd Pantycelyn-Penbryn, ewch ar deithiau rygbi, ymunwch â chôr Pantycelyn, ac ewch i nosweithiau megis Gwobrau'r Selar. **Wrth gwblhau’r radd hon, byddwch wedi ennill y sgiliau isod:** + Sgiliau ymchwilio a dadansoddi data; + Sgiliau mathemategol a chyfrifiadurol uwch; + Sgiliau datrys-problemau a meddwl creadigol effeithiol; + Sylfaen drylwyr mewn technoleg gwybodaeth; + Gallu i weithio’n annibynnol neu fel rhan o dîm; + Sgiliau Rheoli amser a threfnu; + Gallu i gyfathrebu’n eglur yn ysgrifenedig ac ar lafar; + Cymell eich hun a dibynnu arnoch eich hun. **Mae ein graddedigion wedi cael swyddi yn y sectorau isod:** + Dadansoddi ystadegol ac ystadegaeth gyfrifiadurol; + Dysgu; + Peirianneg Awyrenegol; + Cyfrifeg a bancio; + Dadansoddi Risg a gwaith actwaraidd; + Rheolaeth ariannol a dadansoddi buddsoddiadau; + Technoleg gwybodaeth.

  • Qualification
    Bachelor of Arts (with Honours) - BA (Hons)
  • Study mode
    Full-time
  • Duration
    3 years
  • Start date
    2020-09-21
  • Location
    Main Site (Aberystwyth),AberystwythUnited Kingdom
  • Fees & Finances
  • England Year 1 £9,000
  • Northern Ireland Year 1 £9,000
  • Scotland Year 1 £9,000
  • Wales Year 1 £9,000