United Kingdom

Aberystwyth University

301–400 th
Arts & humanities 2018
301–350 th
World University Rankings 2018
Reception, Penglais, Aberystwyth, Ceredigion, SY23 3FL, United Kingdom

Aberystwyth University

Cymraeg/Education

Bydd y cwrs BA (Anrhydedd) Cymraeg ac Addysg yn eich galluogi i ddatblygu eich sgiliau a’ch cymwyseddau yn y Gymraeg ac astudio Llenyddiaeth Gymraeg ymhellach ochr yn ochr ag Addysg. Mae’r cynllun gradd hwn yn gyfuniad perffaith os ydych yn ystyried gyrfa ym myd addysg ynghyd â’r sgiliau cymwysedig a ddatblygir yn Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd. Wrth gwblhau’r radd hon yn llwyddiannus, bydd myfyrwyr yn gymwys i wneud cais am Hyfforddiant Athrawon Ôl-raddedig (TAR) Cynradd neu Uwchradd. Pam astudio Addysg a'r Gymraeg? Cyfle i astudio modiwlau Addysg craidd a chyfuno elfennau damcaniaethol ac ymarferol y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd. Cael eich dysgu gan bobl broffesiynol yn cynnwys athrawon, a chael darlithoedd hefyd gan brif ymchwilwyr yn y maes hwn. Cyfle i wella eich gallu i gydweithio ag eraill. Dysgu mewn amgylchedd eithriadol â chyfleusterau o’r radd flaenaf. Bydd astudio am radd yn y Gymraeg yn dy arfogi ag amrywiaeth eang o sgiliau trosglwyddadwy sydd yn werthfawr iawn i gyflogwyr. Mae’r rhain yn cynnwys: ymchwilio a dadansoddi data; meddwl yn greadigol a datrys problemau’n effeithlon; gweithio’n annibynnol; trefnu a rheoli amser, gan gynnwys y gallu i gwrdd terfynau amser tynn; mynegi syniadau a chyfathrebu gwybodaeth yn glir a threfnus, ar lafar ac yn ysgrifenedig; hunan-gymhelliant a hunan-ddibyniaeth; gwaith tîm, gallu trafod cysyniadau mewn grwpiau, gan drafod amrywiol syniadau a dod i gytundeb; sgiliau technoleg gwybodaeth. Mae ein graddedigion wedi bod yn llwyddiannus yn y meysydd: Dysgu a Addysg; Darlledu; Gofal Cymdeithasol; Nyrsio; Therapi lleferydd; Marchnata a Chyfathrebu; Llywodraeth Leol.

  • Qualification
    Bachelor of Arts (with Honours) - BA (Hons)
  • Study mode
    Full-time
  • Duration
    3 years
  • Start date
    2018-09-24
  • Location
    Main Site (Aberystwyth),Aberystwyth
  • Fees & Finances
  • EU Year 1 £9,000
  • England Year 1 £9,000
  • Northern Ireland Year 1 £9,000
  • Scotland Year 1 £9,000
  • Wales Year 1 £9,000
  • International Year 1 £13,200