United Kingdom

Aberystwyth University

301–400 th
Arts & humanities 2018
301–350 th
World University Rankings 2018
Reception, Penglais, Aberystwyth, Ceredigion, SY23 3FL, United Kingdom

Aberystwyth University

Cymraeg/Drama ac Astudiaethau Theatr

Wrth ddewis astudio’r cwrs BA Cymraeg a Drama ac Astudiaethau Theatr ym Mhrifysgol Aberystwyth, byddi’n cael y cyfle i astudio mewn dwy adran uchel iawn eu bri sy’n arloesi o ran dysgu ac ymchwil, sef Adran y Gymraeg a’r Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu. Mae’r adrannau yn cynnig amrywiaeth ddigymar o ddewisiadau i fyfyrwyr, arbenigedd staff a’r cyfleusterau diweddaraf. Maent yn cyfuno dulliau creadigol a beirniadol o ymdrin â’u disgyblaethau drwy waith ymarferol arloesol ac ymchwil ysgolheigaidd heriol. Adran fywiog a chreadigol lle mae drama a theatr, ffilm a chyfryngau a senograffeg a dylunio theatr yn gwrthdaro â’i gilydd. Mae gradd yn y Gymraeg a Drama yn agor drysau ac mae gwerth arbennig i’r cwrs hwn gan fod safon ymchwil ac addysgu’r adran hon yn Aberystwyth gyda’r uchaf posib. Iaith Gyntaf ac Ail Iaith – mae’r cynllun gradd hwn yn cynnwys llwybrau Ail Iaith ac Iaith Gyntaf. Cysylltiadau â phartneriaid allweddol mewn diwydiant, megis National Theatre Wales, Music Theatre Wales, Cwmni Theatr Quarantine, a Theatr Genedlaethol Cymru. Cyfleusterau ac adnoddau arbennig ar gyfer gwaith ymarferol: tair stiwdio ymarfer, a chyfleusterau technegol hyblyg ym mhob un ohonynt; 2 stiwdio â chyfarpar proffesiynol a rigiau golau digidol yn cael eu rheoli trwy gonsolau ETC Congo a Strand Lighting, PAs Yamaha a Soundcraft, systemau Sanyo AV a goleuo Strand a dau NXAMP; a chyfleusterau gwisgoedd. Cysylltiadau agos â Chanolfan y Celfyddydau Aberystwyth, un o’r canolfannau celfyddydau fwyaf yng Nghymru, sy’n cyflwyno gwaith theatrau cenedlaethol a rhyngwladol a gwaith dawns yn rheolaidd. Yn Aberystwyth gallwch fyw drwy gyfrwng y Gymraeg a mwynhau’r eflen gymdeithasol sydd i’r gymuned Gymraeg yma. Ymaelodwch ag UMCA, dewch i fyw yn neuadd Pantycelyn-Penbryn, ewch ar deithiau rygbi’r Geltaidd, ymunwch â chôr Pantycelyn, ac ewch i nosweithiau megis Gwobrau’r Selar. Mae llawer o’n myfyrwyr wedi bod yn llwyddiannus wrth sicrhau gwaith yn y meysydd canlynol: Actio a pherfformio; Cyfarwyddo; Dylunio; Ysgrifennu sgriptiau; Addysgu ac addysg; Gweinyddu’r celfyddydau; Marchnata; Rheolaeth; Cysylltiadau cyhoeddus.

  • Qualification
    Bachelor of Arts (with Honours) - BA (Hons)
  • Study mode
    Full-time
  • Duration
    3 years
  • Start date
    2018-09-24
  • Location
    Main Site (Aberystwyth),Aberystwyth
  • Fees & Finances
  • EU Year 1 £9,000
  • England Year 1 £9,000
  • Northern Ireland Year 1 £9,000
  • Scotland Year 1 £9,000
  • Wales Year 1 £9,000
  • International Year 1 £13,200