United Kingdom

Aberystwyth University

301–400 th
Arts & humanities 2018
301–350 th
World University Rankings 2018
Reception, Penglais, Aberystwyth, Ceredigion, SY23 3FL, United Kingdom

Aberystwyth University

Cymraeg Proffesiynol

Wrth ddewis astudio’r cwrs BA Cymraeg Proffesiynol yn Adran y Gymraeg Prifysgol Aberystwyth, byddi’n dewis astudio yn yr adran hynaf a’r fwyaf o’i bath y byd. Mae’n gartref i gymuned frwdfrydig o fyfyrwyr ac ymchwilwyr sy’n rhannu’r nod o hybu dealltwriaeth ehangach o’r iaith Gymraeg, ei hanes, ei llenyddiaeth a’i lle yn y byd cyfoes. Mae’r staff sy’n dysgu ar y cwrs yn arbenigwyr mewn meysydd amrywiol ac o ganlyniad byddi’n cael dewis o amrywiaeth eang o bynciau sy’n dy ddiddori. Cwrs Cymraeg arloesol sydd yn dysgu sgiliau proffesiynol ar gyfer y gweithle yng Nghymru. Rhan bwysig o waith Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd yw paratoi myfyrwyr ar gyfer y Gymru gyfoes a thu hwnt, a dyna a wnewn yn ystod eich cyfnod fel myfyriwr Cymraeg Proffesiynol. Yn y byd cyfoes mae cyflogwyr, yn ogystal â darpar fyfyrwyr a rhieni, yn chwilio am radd ‘safon aur’ yn y Gymraeg. Dyma’r radd honno. Ar y cwrs newydd yma byddwch chi’n datblygu sgiliau sy’n ymwneud â defnyddio’r iaith Gymraeg yn hyderus mewn ystod eang o gyd-destunau proffesiynol ac yn y gweithle. Byddwch chi’n cael eich dysgu gan staff sydd â phrofiad helaeth mewn meysydd fel cyfieithu, ysgrifennu creadigol, golygu a chyhoeddi, ac astudio a hybu treftadaeth. Fel adran rydym yn cynnal safonau sy’n gyson uchel ac yn cyflwyno cyrsiau deniadol, diddorol a pherthnasol i’n ffordd o weld Cymru a’r byd drwy’r Gymraeg. Yn ystod eich cyfnod yn fyfyriwr gyda ni byddwch chi’n cael dewis o amrywiaeth helaeth o fodiwlau sy’n rhychwantu ystod eang o ddiddordebau, a byddwch chi’n dod yn rhan naturiol o’r bwrlwm sy’n gysylltiedig â’r Adran. Byddwch chi'n cael eich dysgu gan ddarlithwyr yr Adran sydd yn arbenigwyr yn eu meysydd a gan siaradwyr gwadd sy'n cynrychioli sawl proffesiwn sy'n defnyddio'r Gymraeg. Cyflwynwyd y cwrs yma yn gyntaf yn 2012 ac mae wedi mynd o nerth i nerth ers hynny. Mae'r cwrs yn cael ei gyd-lynu gan Dr Rhianedd Jewell, darlithydd dynodedig y Coleg Cymraeg Cenedlaethol mewn Cymraeg Proffesiynol, sydd yn rhoi ei sylw yn arbennig i'r cwrs hwn. Mae canlyniadau ein graddedigion mewn Cymraeg Proffesiynol o safon uchel iawn. Rhwng 2014 a 2016 mae 49% o’n myfyrwyr Cymraeg Proffesiynol wedi graddio gdya dosbarth cyntaf, ac mae’r 51% arall wedi ennill 2:1 uchel. Mae boddhad ein myfyrwyr yn uchel iawn yn gyson. Eleni, Aberystwyth sydd ar y brig o blith yr holl adrannau Cymraeg yn holiadur yr NSS o ran bodlonrwydd myfyrwyr. Enillodd yr Adran 100% am fodlonrwydd cyffredinol. Mae gwerth arbennig i’r graddau a enillir yn Adran y Gymraeg gan fod safon ein hymchwil a’n dysgu gyda’r uchaf posib. Yn gyson mae cyflogwyr yn datgan bod gradd o’r Adran yn arwydd o safon cyrhaeddiad uchel iawn, ac o ganlyniad mae galw mawr gan ddarpar gyflogwyr am raddedigion o’r Adran mewn amrywiaeth o swyddi yn y sector breifat a chyhoeddus yng Nghymru. Wedi astudio’r radd ‘Cymraeg Proffesiynol’ byddi wedi meithrin sgiliau a allai dy arwain at swydd fel ymchwilydd mewn busnes neu sefydliad cyhoeddus, yn y cyfryngau, ym maes cyfieithu, neu ym myd Addysg Uwch ynghyd â llu o opsiynau eraill. Mae graddedigion Adran y Gymraeg yn mynd ymlaen i swyddi ardderchog, e.e: Addysg; Y Cyfryngau; Gwaith cymdeithasol; Y Gyfraith; Cyfieithu. Mae graddedigion yr adran hefyd yn cael swyddi mewn amrywiaeth eang o feysydd eraill fel: Cyhoeddi llyfrau; Swyddi yn y diwydiant twristiaeth, masnach a’r heddlu; Bydd y sgiliau ymchwilio a dadansoddi y byddi wedi eu datblygu dros gyfnod dy gwrs gradd hefyd yn sail cadarn i astudio’n uwchraddedig ac am yrfa yn y byd academaidd.

  • Qualification
    Bachelor of Arts (with Honours) - BA (Hons)
  • Study mode
    Full-time
  • Duration
    3 years
  • Start date
    2018-09-24
  • Location
    Main Site (Aberystwyth),Aberystwyth
  • Fees & Finances
  • EU Year 1 £9,000
  • England Year 1 £9,000
  • Northern Ireland Year 1 £9,000
  • Scotland Year 1 £9,000
  • Wales Year 1 £9,000
  • International Year 1 £13,200