Aberystwyth University

351–400 th
World University Rankings 2019
51-75 th
European Teaching Rankings 2018
Reception, Penglais, Aberystwyth, Ceredigion, SY23 3FL, United Kingdom

Cymraeg (i fyfyrwyr iaith gyntaf ac ail iaith)

Wrth ddewis astudio’r cwrs BA Cymraeg yn Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd Prifysgol Aberystwyth, byddi’n dewis astudio yn yr adran hynaf o’i bath yn y byd. Mae’n gartref i gymuned frwdfrydig o fyfyrwyr ac ymchwilwyr sy’n rhannu’r nod o hybu dealltwriaeth ehangach o’r iaith Gymraeg, ei hanes, ei llenyddiaeth a’i lle yn y byd cyfoes a rhyngwladol. Mae’r staff sy’n dysgu ar y cwrs yn arbenigwyr mewn meysydd amrywiol, ac o ganlyniad byddi’n gallu dewis o blith amrywiaeth eang o bynciau sy’n dy ddiddori. Enw da – Mae gradd yn y Gymraeg yn agor drysau ac mae gwerth arbennig i’r cwrs hwn gan fod safon ymchwil ac addysgu’r adran hon yn Aberystwyth gyda’r uchaf posib. Hanes – Hon yw’r Adran Gymraeg gyntaf i gael ei sefydlu yng Nghymru (1875). Arbenigwyr - Byddwch chi’n cael eich dysgu gan ddarlithywyr yr Adran sydd yn arbenigwyr yn eu meysydd. Dewis eang – Mae amrywiaeth hynod ddiddorol o cyrsiau unigol ar gael yn yr Adran, sy’n adlewyrchu diddordebau ymchwil diweddaraf ein darlithwyr: hanes ein llên a llenyddiaeth gyfoes, theori lenyddol, llenyddiaeth plant, llên gwerin, astudiaethau menywod ac astudiaethau rhywedd, ysgrifennu creadigol a sgriptio, cyweiriau a thafodieithoedd y Gymraeg, yr iaith mewn cyd-destunau proffesiynol, cyfieithu ac addasu, y Gymraeg a'r cyfryngau, cymdeithaseg yr iaith Gymraeg. Iaith Gyntaf ac Ail Iaith – mae’r cynllun gradd hwn yn cynnwys llwybrau Ail Iaith ac Iaith Gyntaf. Y Llyfrgell Genedlaethol Cymru – Yn ogystal â’r adnoddau helaeth sydd gan y Brifysgol, mae’r Adran ar stepen drwys y Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Adran sy’n Agorau Drysau – Mae llu o bosibiliadau ar gael ar ôl graddio yn y Gymraeg o Brifysgol Aberystwyth. Dysgwch ragor am swyddi rhai o’n graddedigion yma. Bywyd Cymdeithasol Cymraeg Byrlymus - Yn Aberystwyth gallwch fyw drwy gyfrwng y Gymraeg a mwynhau'r elfen gymdeithasol sydd i'r gymuned Gymraeg yma. Ymaelodwch ag UMCA, dewch i fyw yn neuadd Pantycelyn-Penbryn, ewch ar deithiau rygbi, ymunwch â chôr Pantycelyn, ac ewch i nosweithiau megis Gwobrau'r Selar. Boddhad Myfyrwyr - Mae boddhad ein myfyrwyr yn uchel iawn yn gyson. Eleni, Aberystwyth sydd ar y brig o blith yr holl adrannau Cymraeg yn holiadur yr NSS o ran bodlonrwydd myfyrwyr. Enillodd yr Adran 100% am fodlonrwydd cyffredinol. Beth fyddi di’n ei ddysgu? Iaith Gyntaf - 
Yn y flwyddyn gyntaf byddwch chi'n cael cyfle i weld pa agwedd ar y Gymraeg sydd o ddiddordeb mwyaf i chi. Byddwch chi'n dysgu am amrywiaeth o gyfnodau llenyddol ac agweddau eraill ar y pwnc fel y gallwch ddylunio eich cyfuniad unigryw chi o fodiwlau yn yr ail a'r drydedd flwyddyn. Cliciwch ar y dudalen Modiwlau i weld y dewis llawn. Ail Iaith - 
Yn y flwyddyn gyntaf byddwch chi'n cael eich dysgu ar wahân i'r myfyrwyr iaith gyntaf. Bydd hyn yn rhoi cyfle ichi fagu hyder a gwella'ch sgiliau iaith gyda chefnogaeth staff a'ch cyd-fyfyrwyr. Mae llu o bosibiliadau ar gael ar ôl graddio yn y Gymraeg o Brifysgol Aberystwyth: cyfieithu a mentrau iaith; gweinyddu; llywodraeth leol a gwleidyddiaeth Cymru a’r byd; addysg a’r byd academaidd; y cyfryngau, sgriptio, cynhyrchu a darlledu; y diwydiant cyhoeddi, llenydda, golygu, marchnata; twristiaeth a’r diwydiant treftadaeth; busnes cenedlaethol a rhyngwladol.

  • Qualification
    Bachelor of Arts (Hons)/BA (Hons)
  • Study mode
    Full-time
  • Duration
    3 years
  • Start date
    2019-09-23
  • Location
    Main Site (Aberystwyth),Aberystwyth
  • Fees & Finances
  • EU Year 1 £9,000
  • England Year 1 £9,000
  • Northern Ireland Year 1 £9,000
  • Scotland Year 1 £9,000
  • Wales Year 1 £9,000
  • Qualification
    Bachelor of Arts (Hons)/BA (Hons)
  • Study mode
    Full-time
  • Duration
    3 years
  • Start date
    2018-09-24
  • Location
    Main Site (Aberystwyth),Aberystwyth
  • Fees & Finances
  • International Year 1 £13,450
  • EU Year 1 £9,000
  • England Year 1 £9,000
  • Northern Ireland Year 1 £9,000
  • Scotland Year 1 £9,000
  • Wales Year 1 £9,000