United Kingdom

Aberystwyth University

301–400 th
Arts & humanities 2018
301–350 th
World University Rankings 2018
Reception, Penglais, Aberystwyth, Ceredigion, SY23 3FL, United Kingdom

Aberystwyth University

Cymraeg a Gwleidyddiaeth Ryngwladol

Wrth ddewis astudio’r radd gyfun BA Cymraeg a Gwleidyddiaeth Ryngwladol ym Mhrifysgol Aberystwyth byddi’n rhannu dy amser rhwng Adran y Gymraeg a’r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol, dwy adran uchel iawn eu bri. Adran y Gymraeg yw’r adran hynaf a’r fwyaf o’i bath y byd. Mae’n gartref i gymuned frwdfrydig o fyfyrwyr ac ymchwilwyr sy’n rhannu’r nod o hybu dealltwriaeth ehangach o’r iaith Gymraeg, ei hanes, ei llenyddiaeth a’i lle yn y byd cyfoes. Mae’r staff sy’n dysgu ar y cwrs yn arbenigwyr mewn meysydd amrywiol ac o ganlyniad byddi’n gallu dewis o blith amrywiaeth eang o bynciau sy’n dy ddiddori. Mae Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn bwnc hollol ddeinamig. Mae’n adlewyrchu bywiogrwydd, egni a datblygiadau byd sy’n newid yn gyflym. Astudir elfen hon y cwrs yn yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol ym Mhrifysgol Aberystwyth, sef y ganolfan orau yn y Deyrnas Gyfunol ar gyfer astudio cysylltiadau rhyngwladol. Mae’r adran hefyd yn gartref i Sefydliad Gwleidyddiaeth Cymru. Mae’r cyfuniad o ddysgu rhagorol ac ymchwil gyffrous yn creu profiad unigryw ac eithriadol yma, a hynny mewn awyrgylch cyfeillgar. Ceir cyfle o bob math hefyd i ddatblygu sgiliau trosglwyddadwy a fydd yn cynyddu dy gyfle am yrfaoedd. Diben astudio gwleidyddiaeth yw edrych yn fanwl ar waith a phatrymau llywodraeth, ac yn bwysicach fyth, ar ganlyniadau’r gwaith a’r patrymau rheiny . Wrth astudio’r cwrs gradd Gwleidyddiaeth Ryngwladol a Gwleidyddiaeth Cymru byddi’n cyfuno’r astudiaeth o Wleidyddiaeth Ryngwladol â sylw arbennig i Wleidyddiaeth Cymru. Bydd elfen ryngwladol y cwrs yn amlwg yn delio â phob math o newidiadau byd-eang, yn economaidd, diwylliannol a gwleidyddol. Mae Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn bwnc cyffrous a rhyngddisgyblaethol sy’n cynnwys Gwleidyddiaeth, Hanes, Athroniaeth, y Gyfraith, Daearyddiaeth a Chymdeithaseg er mwyn ceisio deall y byd o’n cwmpas a’r problemau sy’n ei wynebu. Yn ogystal ag edrych ar waith a phatrymau llywodraeth, astudio’r syniadau sy’n sail i bob agwedd o rym a chymdeithas a chysyniadau sylfaenol megis rhyddid, cymuned, cyfiawnder, cydraddoldeb a hawliau, ceir cyfle hefyd ar y cwrs gradd hwn i ganolbwyntio ar ddatblygiadau gwleidyddol yng Nghymru, effaith datganoli ar Gymru ac ar ei sefyllfa o fewn y Deyrnas Gyfunol ac Ewrop. Sefydlwyd yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn 1919 ar ddiwedd y Rhyfel Byd Cyntaf, a dyma’r adran brifysgol gyntaf o’i bath, ac mae’n parhau i fod yn un o’r adrannau gwleidyddiaeth a chysylltiadau rhyngwladol mwyaf yn Ewrop, a chanddi dros 40 o staff academaidd. Mae rhai graddedigion wedi dilyn gyrfa yn y gwasanaeth sifil (yn enwedig y Swyddfa Dramor, y Weinyddiaeth Amddiffyn, a’r Adran Datblygu Rhyngwladol); sefydliadau rhyngwladol (NATO, yr Undeb Ewropeaidd a’r Cenhedloedd Unedig); mudiadau anllywodraethol (Amnest Rhyngwladol, Oxfam); ac ymchwil gwleidyddol, gyda chwmnïau preifat yn ogystal ag yn San Steffan, Cynulliad Cenedlaethol Cymru a Senedd Ewrop. Mae eraill yn dilyn gyrfa yn y lluoedd arfog, y cyfryngau (fel newyddiadurwyr neu gyflwynwyr radio neu deledu), y gyfraith a byd addysg.

  • Qualification
    Bachelor of Arts (with Honours) - BA (Hons)
  • Study mode
    Full-time
  • Duration
    3 years
  • Start date
    2018-09-24
  • Location
    Main Site (Aberystwyth),Aberystwyth
  • Fees & Finances
  • EU Year 1 £9,000
  • England Year 1 £9,000
  • Northern Ireland Year 1 £9,000
  • Scotland Year 1 £9,000
  • Wales Year 1 £9,000
  • International Year 1 £13,200