United Kingdom

Aberystwyth University

301–400 th
Arts & humanities 2018
301–350 th
World University Rankings 2018
Reception, Penglais, Aberystwyth, Ceredigion, SY23 3FL, United Kingdom

Aberystwyth University

Astudiaethau Celtaidd

Wrth ddewis astudio’r cwrs BA Astudiaethau Celtaidd yn Adran y Gymraeg Prifysgol Aberystwyth, byddi’n dewis astudio yn yr adran hynaf a’r fwyaf o’i bath y byd. Mae’n gartref i gymuned frwdfrydig o fyfyrwyr ac ymchwilwyr sy’n rhannu’r nod o hybu dealltwriaeth ehangach o’r iaith Gymraeg a’r ieithoedd Celtaidd eraill, eu hanes, eu llenyddiaeth a’u lle yn y byd cyfoes. Yma yn yr Adran mae gennym arbenigwyr ym mhob un o’r ieithoedd Celtaidd a byddi’n cael dy ddysgu mewn grwpiau bach cyfeillgar. Mae Adran y Gymraeg yn Aberystwyth yn un o’r prif ganolfannau prifysgol yng ngwledydd Prydain ar gyfer astudio’r ieithoedd Celtaidd, eu llenyddiaethau a’u diwylliannau. At hyn, Aberystwyth yw’r unig brifysgol yng Nghymru lle dysgir yr holl ieithoedd Celtaidd sy’n dal i gael eu defnyddio’n ddyddiol heddiw, sef Gwyddeleg, Gaeleg yr Alban, Llydaweg a’r Gymraeg. Mae safon ymchwil ac addysgu’r adran yma yn Aberystwyth gyda’r uchaf posib. Rhan o waith yr Adran yw paratoi myfyrwyr ar gyfer y Gymru gyfoes a thu hwnt, a dyna a wnewn yn ystod dy gyfnod fel myfyriwr gyda ni. Bydd y radd hon yn dy baratoi am amrywiaeth o swyddi ac yn datblygu dy sgiliau ieithyddol, creadigol a chyfathrebu. Yn ystod dy gyfnod fel myfyriwr gyda ni byddi’n cael dewis o amrywiaeth helaeth o fodiwlau sy’n rhychwantu ystod eang o ddiddordebau ac yn dod yn rhan naturiol o’r bwrlwm sy’n gysylltiedig â’r Adran. Cei dy ddysgu gan arbenigwyr sydd yn arloesi yn eu maes a byddi’n dilyn cwrs cyffrous a heriol. Bydd y cyrsiau i gyd (ar wahân i’r Gymraeg wrth gwrs) yn dechrau o’r dechrau, a gelli’n amlwg ddysgu popeth drwy gyfrwng y Gymraeg – nid yw hyn yn bosibl yn unman arall heblaw Aberystwyth. Bydd y cwrs Astudiaethau Celtaidd yn rhoi cefndir a dyfnder i’th ddealltwriaeth o’r diwylliant Cymraeg ac wrth gwrs mae diwylliannau Iwerddon, yr Alban, a Llydaw yn hynod o ddiddorol ynddynt eu hunain. Nid oes raid i ti astudio’r pedair iaith Geltaidd; craidd y cwrs yw ieithoedd a llên Cymru ac Iwerddon, tra bo Llydaweg a Gaeleg yr Alban yn ddewisiadau poblogaidd. Bydd rhai myfyrwyr yn dewis canolbwyntio ar yr Oesoedd Canol ac eraill wedyn yn dewis ymddiddori mewn cyfnodau diweddarach, felly mae modd bod yn hyblyg o fewn y cynllun gradd. Cei ddewis o blith nifer fawr o gyrsiau dewisol yn cynnwys Llên Arthuraidd, Merched a Llenyddiaeth, Ysgrifennu Creadigol, Cymraeg yn y Gweithle a llawer o rai eraill. Mae graddedigion Adran y Gymraeg yn mynd ymlaen i swyddi ardderchog. Mae llawer yn mynd ymlaen i fyd addysg, tra bo’r cyfryngau yn denu llawer i berfformio, gweinyddu a chynhyrchu. Aiff rhai o raddedigion yr adran i weithio mewn meysydd fel gwaith cymdeithasol a’r gyfraith. Mae graddedigion yr adran hefyd yn cael swyddi mewn amrywiaeth eang o feysydd eraill fel cyhoeddi llyfrau, y diwydiant twristiaeth, masnach, amgueddfeydd, llyfrgelloedd ac archifdai, y diwydiant ‘etifeddiaeth’, a’r heddlu. Bydd y sgiliau ymchwilio a dadansoddi y byddi wedi eu datblygu dros gyfnod dy gwrs gradd hefyd yn sail cadarn i astudio’n uwchraddedig ac am yrfa yn y byd academaidd.

  • Qualification
    Bachelor of Arts (with Honours) - BA (Hons)
  • Study mode
    Full-time with time abroad
  • Duration
    4 years
  • Start date
    2018-09-24
  • Location
    Main Site (Aberystwyth),Aberystwyth
  • Fees & Finances
  • EU Year 1 £9,000
  • England Year 1 £9,000
  • Northern Ireland Year 1 £9,000
  • Scotland Year 1 £9,000
  • Wales Year 1 £9,000
  • International Year 1 £13,200