Skip to main content

This job has expired

Head of Student Support and Careers Services Student Support and Careers Services

Employer
ABERYSTWYTH UNIVERSITY
Location
Aberystwyth, Ceredigion (Sir Ceredigion)
Salary
£65,074 - £100,976 per annum
Closing date
22 Jun 2021

Head of Student Support and Careers Services Student Support and Careers Services

36.5 hours per week 
Grade 10: £65,074 - £100,976 per annum

To promote a flexible workforce, the University will consider applications from individuals seeking full time, part time, job share, or term time only working arrangements. 

The Head of Student Support and Careers Services is a key senior position within the University, reporting directly to the Pro Vice-Chancellor for Learning, Teaching and Student Experience. The role is responsible for the leadership of a substantial and critical student-facing central service team that liaises with University faculties and other service provision operations, as necessary. Accordingly, the post holder must be adept at leading and managing a set of professional but distinct teams and services, whilst also supporting and fostering collaborative and collegial operations with all stakeholders. In addition, the individual will carry substantial responsibility for the University’s engagement with Prevent and Safeguarding. 

This role offers the opportunity to shape the policies and practices in student welfare and support, to ensure effective provision for students. There remains further work to be done in implementing our Student Mental Health and Wellbeing Strategy and in considering our engagement with the Mental Health charter process.

The role holder will be responsible for creating and embedding an improved careers and employability service across the student experience that measurably improves student outcomes and our graduates’ success in the recruitment market.

The role will build on the high-quality integrated and accessible student support and careers service that delivers student satisfaction and employability.


Ref: SSC.21.3665

Under the UK Government’s points-based system scheme, this role meets the criteria to be sponsored by Aberystwyth University (AU) for a Skilled Worker Route (SWR) application. Please see below for more information on the sponsorship process.

For information and to apply, please go to http://jobs.aber.ac.uk. We welcome applicants from all backgrounds and communities and in particular, those that are currently under-represented in our workforce. This includes but is not limited to Black, Asian and Minority Ethnic (BAME) candidates and candidates with disabilities. We specifically encourage female candidates to apply for this post as they are currently under-represented at this level in our organisation.

We are a Bilingual Institution which complies with the Welsh Language Standards and is committed to Equal Opportunities. You are welcome to apply for any vacancy in Welsh or English and any application submitted will be treated equally.

Appointments are normally made within 4 - 8 weeks of the closing date. 

Closing Date:  22/06/2021


Pennaeth y Gwasanaethau Cymorth i Fyfyrwyr a Gyrfaoedd 
Y Gwasanaeth Cymorth i Fyfyrwyr a Gyrfaoedd 


36.5 awr yr wythnos 
Gradd 10: £65,074 - £100,976 y flwyddyn

I hyrwyddo gweithlu hyblyg, bydd y Brifysgol yn ystyried ceisiadau gan unigolion sy'n ceisio am swydd gyda threfniadau gweithio llawn amser, rhan amser, rhannu swydd, neu yn ystod y tymor yn unig.

Mae Pennaeth y Gwasanaethau Cymorth i Fyfyrwyr a Gyrfaoedd yn swydd allweddol ar lefel uchel yn y Brifysgol, ac yn adrodd yn uniongyrchol i'r Dirprwy Is-Ganghellor Dysgu, Addysgu a Phrofiad Myfyrwyr. Mae'r Pennaeth yn gyfrifol am arwain tîm gwasanaeth canolog sylweddol a holl bwysig sy'n darparu gwasanaeth i'r myfyrwyr ac yn cyd-drafod yn ôl yr angen â chyfadrannau'r Brifysgol ac â gweithrediadau eraill sy'n darparu gwasanaethau. O'r herwydd, rhaid i ddeiliad y swydd allu arwain a rheoli set o dimau a gwasanaethau proffesiynol gwahanol yn ddeheuig, gan gefnogi a meithrin gwaith cydweithredol a cholegol â'r holl randdeiliaid. Bydd gan yr unigolyn dan sylw hefyd gyfrifoldeb sylweddol am ymwneud y Brifysgol â Prevent a Diogelu. 

Dyma swydd sy'n gyfle i siapio'r polisïau a'r arferion ym maes lles a chefnogaeth i fyfyrwyr, er mwyn sicrhau darpariaeth effeithiol i’r myfyrwyr. Erys rhagor o waith i'w wneud i roi ein Strategaeth Iechyd Meddwl a Lles Myfyrwyr ar waith ac i ystyried ein hymwneud â phroses y siarter Iechyd Meddwl.  

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gyfrifol am sefydlu gwell gwasanaeth gyrfaoedd a chyflogadwyedd a'i ymgorffori ar draws profiad y myfyrwyr, gan sicrhau gwelliant mesuradwy yn llwyddiant ein graddedigion yn y farchnad swyddi.

Bydd deiliad y swydd yn datblygu'r gwasanaeth cymorth i fyfyrwyr a gyrfaoedd integredig sydd eisoes o ansawdd uchel ac yn hygyrch, ac sy’n cynnig boddhad i'r myfyrwyr ac yn hybu eu cyflogadwyedd.


Cyf: SSC.21.3665

O dan gynllun system bwyntiau Llywodraeth y DU, mae'r swydd hon yn bodloni'r meini prawf i gael ei noddi gan Brifysgol Aberystwyth ar gyfer cais Llwybr Gweithiwr Medrus (SWR). I gael rhagor o wybodaeth am y broses noddi, gweler isod.

Rydym yn croesawu ymgeiswyr o bob cefndir a chymuned, ac yn benodol y rhai sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn ein gweithlu ar hyn o bryd. Mae’r rhain yn cynnwys ond nid ydynt yn gyfyngedig i ymgeiswyr Duon, Asiaidd ac o Leiafrifoedd Ethnig (BAME) ac ymgeiswyr sydd ag anableddau. Rydym yn annog ymgeiswyr benywaidd yn benodol i ymgeisio am y swydd hon gan nad ydynt wedi’u cynrychioli’n ddigonol ar y lefel hon yn ein sefydliad ar hyn o bryd. 

Sefydliad Dwyieithog sy’n cydymffurfio â Safonau’r Iaith Gymraeg ac sy’n ymroddedig i Gyfle Cyfartal. Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd yn Gymraeg neu yn Saesneg a bydd pob cais a gyflwynir yn cael eu trin yn gyfartal.

Fel arfer fe benodir i swyddi o fewn 4 - 8 wythnos wedi’r dyddiad cau. 

Dyddiad Cau:  22/06/2021  

Get job alerts

Create a job alert and receive personalised job recommendations straight to your inbox.

Create alert