401–500
2021 世界大学排名
51-75
2019 年度欧洲教学排名
Reception, Penglais, Aberystwyth, Ceredigion, SY23 3FL, United Kingdom

Cymraeg y Gweithle Proffesiynol/Cyfrifeg a Chyllid - Aberystwyth University

Mae’r cwrs newydd hwn yn cyfuno sgiliau ieithyddol a phroffesiynol y Gymraeg ag arbenigedd mewn cyfrifeg a chyllid. Yn y Gymru gyfoes mae galw cynyddol am weithwyr proffesiynol dwyieithog o’r safon uchaf, a bydd y cwrs newydd hwn yn eich galluogi i ennill sgiliau a phrofiadau hynod o werthfawr wrth gamu i’r byd busnes yng Nghymru. Bydd cyfle ichi ddysgu sut i weinyddu, golygu, cyfieithu a marchnata; gallwch ddysgu sgiliau rheoli, cyflwyno, arwain a chydweithio; ac fe fyddwch chi’n arbenigo ym meysydd cyfrifeg a chyllid. Cewch chi ennill profiad o’r cyfoeth o yrfaoedd sydd ar gael ichi trwy gyfrwng y Gymraeg, ac mae’r opsiwn hefyd i ddewis astudio agweddau ar iaith, diwylliant a llenyddiaeth y Gymraeg. Mae’r cwrs hwn ar gael i fyfyrwyr iaith gyntaf ac ail iaith, ac mae cyfle unigryw i’w astudio hyd yn oed os nad ydych chi wedi gwneud Cymraeg Safon Uwch Iaith Gyntaf. Pam Aberystwyth? Mae Aberystwyth yn cyfuno traddodiad hir â datblygiadau arloesol. Byddwch chi’n dysgu gan arbenigwyr yn eu meysydd yn Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd ac yn yr Ysgol Fusnes. Mae Aberystwyth hefyd yn nodedig am fod yn gyfeillgar a chroesawgar dros ben ac fe gewch chi gefnogaeth o’r safon uchaf gan ein darlithwyr. Enw da – Mae gradd yn y Gymraeg a Chyfrifeg yn agor drysau ac mae gwerth arbennig i’r cwrs hwn gan fod safon ymchwil ac addysgu’r adran hon yn Aberystwyth gyda’r uchaf posib. Hanes – Hon yw’r Adran Gymraeg gyntaf i gael ei sefydlu yng Nghymru (1875) Arbenigwyr - Byddwch chi’n cael eich dysgu gan ddarlithywyr yr Adran sydd yn arbenigwyr yn eu meysydd. Dewis eang – Mae amrywiaeth hynod ddiddorol o cyrsiau unigol ar gael yn yr Adran, sy’n adlewyrchu diddordebau ymchwil diweddaraf ein darlithwyr: hanes ein llên a llenyddiaeth gyfoes, theori lenyddol, llenyddiaeth plant, llên gwerin, astudiaethau menywod ac astudiaethau rhywedd, ysgrifennu creadigol a sgriptio, cyweiriau a thafodieithoedd y Gymraeg, yr iaith mewn cyd-destunau proffesiynol, cyfieithu ac addasu, y Gymraeg a'r cyfryngau, cymdeithaseg yr iaith Gymraeg. Iaith Gyntaf ac Ail Iaith – mae’r cynllun gradd hwn yn cynnwys llwybrau Ail Iaith ac Iaith Gyntaf. Mae’r manylion ar gael yn llawn ar y dudalenDysgu ac Addysgu. Y Llyfrgell Genedlaethol Cymru – Yn ogystal â’r adnoddau helaeth sydd gan y Brifysgol, mae’r Adran ar stepen drwys y Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Adran sy’n Agorau Drysau – Mae llu o bosibiliadau ar gael ar ôl graddio yn y Gymraeg gyda Cyfrifeg a Chyllid o Brifysgol Aberystwyth. Dysgwch ragor am swyddi rhai o’n graddedigion yma. Bywyd Cymdeithasol Cymraeg Byrlymus - Yn Aberystwyth gallwch fyw drwy gyfrwng y Gymraeg a mwynhau'r elfen gymdeithasol sydd i'r gymuned Gymraeg yma. Ymaelodwch ag UMCA, dewch i fyw yn neuadd Pantycelyn-Penbryn, ewch ar deithiau rygbi, ymunwch â chôr Pantycelyn, ac ewch i nosweithiau megis Gwobrau'r Selar. Boddhad Myfyrwyr - Mae boddhad ein myfyrwyr yn uchel iawn yn gyson. Eleni, Aberystwyth sydd ar y brig o blith yr holl adrannau Cymraeg yn holiadur yr NSS o ran bodlonrwydd myfyrwyr. Enillodd yr Adran 100% am fodlonrwydd cyffredinol.

  • Qualification
    Bachelor of Arts (with Honours) - BA (Hons)
  • Study mode
    Full-time
  • Duration
    3 years
  • Start date
    2020-09-01
  • Location
    Main Site (Aberystwyth),AberystwythUnited Kingdom
  • Fees & Finances
  • EU Year 1 £9,000
  • England Year 1 £9,000
  • Northern Ireland Year 1 £9,000
  • Scotland Year 1 £9,000
  • Wales Year 1 £9,000